Mae awdur o Lanelli wedi cael cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobr Dylan Thomas eleni.
Casgliad o straeon byrion gan Joshua Jones ydy un o’r chwe llyfr sydd yn y ras i ennill y wobr ar gyfer awduron ifainc.
Bydd enillydd Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn derbyn £20,000 – a Joshua Jones ydy’r unig enw sy’n ymddangos ar y rhestr am y tro cyntaf.
Mae’r wobr, sy’n cael ei chynnal am yr unfed tro ar bymtheg, yn agored i feirdd ac awduron 39 oed ac iau, am nofelau, barddoniaeth, straeon byrion a dramâu.
Casgliad o straeon byrion sydd wedi’u hysbrydoli gan ddigwyddiadau a phobol go iawn yn Llanelli ydy Local Fires.
Yn ymuno â Local Fires ar y rhestr fer mae:
- A Spell of Good Things, nofel gan Ayòbámi Adébáyò o Nigeria
- Small Words, nofel gan Caleb Azumah Nelson o Loegr a Ghana
- The Glutton gan A. K. Blakemore o Loegr
- Biography of X gan Catherine Lacey o America
- Bright Fear, casgliad o farddoniaeth gan Mary Jean Chan o Hong Kong.
Y beirniaid eleni yw Jon Gower, Namita Gokhale, Tice Cin, Julia Wheeler a Sean Hewitt.
‘Portread o le a chymuned’
Namita Gokhale, awdures o India, ydy cadeirydd y panel beirniaid, a dywed ei bod hi wedi bod yn “antur foddhaol iawn i ddarllen drwy’r sbectrwm creadigol o leisiau”.
Wrth drafod Local Fires, dywed ei fod yn bortread o le a chymuned sy’n “angenrheidiol, gwreiddiol ac wedi’i wreiddio”.
“Mae’r casgliad cyntaf yma o straeon byrion yn cyfleu syrthni, llonyddwch a diniweidrwydd diflanedig y tirlun ôl-ddiwydiannol,” meddai.
“Mae’n myfyrio ar wrywdod tocsig ac anobaith cenhedlaeth, yn cyflwyno cameos doniol i drasig o rywedd a hunaniaeth rywiol, a ffenest ddofn ar niwrowahaniaeth.”
Bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni yn Abertawe ar Fai 16, ar ôl Diwrnod Dylan Thomas ar Fai 14.
Ymhlith cyn-enillwyr y wobr mae Rachel Tresize, Kayo Chingonyi, Fiona McFarlane a Bryan Washington.