Yr wythnos hon, bu farw un o hoelion wyth sefydliad Merched y Wawr, yr awdur Zonia Bowen, a oedd yn hanu o Heckmondwike, Swydd Efrog. Roedd yn genedlaetholwraig Gymreig, yn academydd, yn ieithydd, ac yn awdur llyfrau dysgu Llydaweg, ac yn ystyried ei hun yn ddi-grefydd. Cydsefydlodd Merched y Wawr ym mhentre’r Parc yn 1967 fel protest yn erbyn polisi uniaith Saesneg y Women’s Institute. Wrth gyhoeddi’r newyddion ar ei gyfrif Facebook, dywedodd y canwr gwerin Gwilym Bowen Rhys, bod ei Nain yn “ddynes ryfeddol mewn sawl ffordd”.

Yn 2015, ar ôl iddi gyhoeddi ei hatgofion gyda gwasg Y Lolfa, bu Non Tudur, gohebydd cylchgrawn Golwg, yn ei chyfweld, a bu’n sgwrsio am ddatgelu ar goedd am y tro cyntaf yr amgylchiadau a barodd iddi ymddiswyddo o Ferched y Wawr yn y 1970au. Dyma ddetholiad o’r erthygl honno…


“Amser anodd” sylfaenydd Merched y Wawr

Yn ôl y wraig sy’n cael ei hystyried yn sylfaenydd Merched y Wawr, dyw aelodau – hyd yn oed merched y Parc, y Bala – ddim yn gwybod y gwir am yr anghydfod yn 1975 a arweiniodd at ei hymddiswyddiad.

Mae sgrifennu ei hunangofiant, Dy bobl di fydd fy mhobl i, yn gyfle i Zonia Bowen wneud iawn am hynny ac i drafod cyfnod poenus yn ei bywyd.

“Dw i ddim yn teimlo i mi gael siawns i ddweud fy ochr i o’r stori a’r gwir reswm i mi ymddiswyddo,” meddai wrth Golwg, yn ei chartref yng Nghaeathro, Caernarfon.

Yn ei llyfr mae’r Dyniaethydd a’r anffyddiwr adnabyddus yn datgelu mai dadl am le crefydd yng nghyfarfodydd Merched y Wawr a arweiniodd at ei ymddiswyddiad.

“Ro’n i’n teimlo fod rhai pethau ddim yn deg, a’u bod nhw’n trin yr aelodau oedd ddim yn grefyddol neu o grefydd arall fel aelodau ail-ddosbarth,” meddai. “Mewn rhai siroedd, ac fe alla’ i enwi Sir Gaerfyrddin yn arbennig… roedden nhw’n trefnu cyfarfod sirol blynyddol yn gyfan gwbl ar batrwm gwasanaeth crefyddol.

“Roedd rhai pobol yn teimlo eu bod nhw ddim eisiau mynd i’r math yna o gyfarfod, yn teimlo eu bod nhw’n cael eu cau allan yn gyfan gwbl. Doedd dim ots gan y bobol hynny bod y rhai crefyddol yn trefnu rhyw fath o wasanaeth gwirfoddol cyn i’r pethau swyddogol ddechrau neu ar ôl iddynt orffen, ond roedden nhw’n teimlo y dylai gweithgareddau swyddogol Merched y Wawr i gyd i fod yn agored i bob aelod, beth bynnag oedd eu cred nhw.”

Cafodd y wasg a’r cyfryngau ‘gamargraff’ ar y pryd, meddai ei bod wedi gwrthwynebu cynnal unrhyw wasanaeth crefyddol o gwbl a’i bod yn mynnu y dylai’r Pwyllgor Gwaith addasu cyfansoddiad y mudiad.

‘Roedd y gwirionedd yn hollol i’r gwrthwyneb,’ meddai yn y llyfr.

‘Fi oedd Llywydd Anrhydeddus y mudiad ac yn teimlo mai fi oedd yn gyfrifol – yn siarad dros bolisi’r mudiad – a doeddwn i ddim yn teimlo ei fod yn deg a ddim eisiau iddyn nhw wneud yn fy enw i,’ meddai. ‘Buaswn i wedi gallu dweud llawer mwy am adael Merched y Wawr – ond doeddwn i ddim eisiau brifo teimladau neb. Roedd y drwgdeimlad yno tuag ata’ i cyn i mi ymddiswyddo… Dw i wedi teimlo bod hynny wedi para drwy’r blynyddoedd.’

Ond mae’n teimlo bod “llawer iawn” wedi digwydd ers hynny ac agweddau’r mudiad wedi newid. “Dw i’n credu bod pobol heddiw yn y wlad yn gyffredinol yn fwy parod i dderbyn rhywun sy’ ddim yn grefyddol, neu sydd o grefydd arall nag oedden nhw o’r blaen,” meddai.

Ysbrydoli pobol y Parc

Seisnigrwydd a ‘styfnigrwydd’ y Women’s Institute (y WI) a barodd i Zonia Bowen feddwl am sefydlu mudiad cenedlaethol Cymraeg i ferched.

Ofer oedd ei hymdrech hi, ac eraill o gangen WI y Parc i Gymreigio gweinyddiaeth y mudiad hwnnw.

‘Nid cenedlaetholwyr brwd dros eu hiaith a’u gwlad oedd y rhan fwyaf o ferched y Parc,’ meddai yn y llyfr. ‘Nid arweinwyr mohonynt ac nid y math o bobl i godi twrw, fel y cyfryw.’

Mae’n enwi Sylwen Davies a Lona Puw fel eithriadau. “Doedd y lleill ddim yn meddwl bod angen brwydro dros yr iaith na dim byd felly,” meddai wrth Golwg. “Roedd pethau’n digwydd y tu allan i’r WI hefyd, yn gyffredinol yng Nghymru. Roedd pobol fel Eileen Beasley yn ymladd dros gael ffurflenni trethi yng Nghymru, Saunders Lewis wedi gwneud ei araith, a Cymdeithas yr Iaith yn dechrau.

“Dw i’n credu yr oedd hwnna ar fy meddwl i o hyd: pam ddylsen ni dderbyn yr holl ffurflenni ac ati yn Saesneg, ac y dylsen ni wneud rhywbeth ynglŷn â’r peth.”

Ei gŵr, Geraint Bowen, a feddyliodd am enw’r mudiad.

“Roedd Dafydd Iwan yn dechrau sôn am ‘y wawr yn torri’ a gwerin Cymru yn dechrau deffro i’w cyfrifoldebau. Dyna o le daeth yr enw… Mae wedi dod mor gyffredin does neb yn meddwl am yr ystyr.” 

Y Saesnes a drodd yn Gymraes

“Roedd fy nhad yn dod o deulu a oedd yn ddeallus iawn, a fy mam o deulu oedd yn fwy o weithwyr,” meddai Zonia Bowen a gafodd ei magu yn Swydd Efrog. “Roedd fy nhad yn awyddus i fi a fy chwaer gael addysg. Roedd e’n meddwl bod hynny’n bwysig.”

Daeth trobwynt yn ei bywyd wrth fynd i’r brifysgol ym Mangor a chymdeithasu gyda Chymry Cymraeg yn cynnwys Meredydd Evans o Driawd y Coleg a’r llenor Islwyn Ffowc Elis.

“Roedd fy mhrif ffrind, Beti Jones o Fynytho, yn Gymreigaidd iawn,” meddai. “Roedd hi yn cymryd Cymraeg yn y coleg, ac roeddwn i’n ffrindiau efo’i ffrindiau hi wedyn – ac yn mynd i nosweithiau llawen, a dramâu Cymraeg, popeth a oedd yn Gymraeg.”

Ar ôl ei dyddiau coleg, doedd ganddi ddim awydd dychwelyd i Loegr. “Unwaith roeddwn i yng Nghymru yn y coleg, doeddwn i ddim eisiau gadael Cymru,” meddai. “Roedd hi’n gas gen i feddwl am fynd yn ôl i Loegr i ddysgu a byw mewn lle dieithr. Roeddwn i eisiau aros yng Nghymru a bod yn rhan o’r bywyd Cymraeg. Dyna un rheswm briodais i â Geraint i fod yn onest, i aros yng Nghymru!”

Magodd bedwar o blant yn Gymry Cymraeg ac mae ganddi 11 o wyrion, rhai’n aelodau o’r grwpiau Bandana a Plu.

“Dw i’n falch iawn eu bod nhw’n gwneud rhywbeth felly,” meddai Zonia Bowen. “Mae o wedi gwneud i fi gadw’n ifanc. Mi fydda’ i’n gwrando ar raglenni pop a gwerin ar y radio, yn gwybod am enwau bands eraill a phwy sydd ar dop y rhestr. Dw i’n cadw i fyny efo pethau pobol ifanc wrth gymryd diddordeb ynddyn nhw.”

  • Zonia Margarita Bowen (née North), 23/04/1926 – 18/03/2024