Mae mudiad CAMRA wedi gwahodd Vaughan Gething i drafod dyfodol tafarnau Cymru.
Maen nhw wedi gwahodd arweinydd newydd Llafur Cymru, sy’n disgwyl dod yn Brif Weinidog newydd Cymru yr wythnos hon, i drafod sut i warchod, hyrwyddo a diogelu tafarnau a bragdai’r wlad fel asedau cymunedol hanfodol.
Yn ôl CAMRA, fe wnaeth 73 o dafarnau Cymru gau eu drysau am y tro olaf yn 2023, gyda deg o adeiladau oedd yn arfer bod yn dafarnau hefyd yn cau.
Mae CAMRA yn galw am ailfeddwl ynghylch y penderfyniad i leihau’r cymorth cyfraddau busnes i fusnesau lletygarwch, cyflwyno gwarchodaeth yn y sytem gynllunio i alluogi cymunedau i achub eu tafarnau drwy orfod sicrhau caniatâd cynllunio cyn dymchwel neu drosi adeiladau tafarnau.
Ar hyn o bryd, Cymru sydd â’r gwarchodaeth gynllunio wannaf o blith gwledydd Prydain, gan nad oes rhaid ailadeiladu tafarnau sy’n cael eu dymchwel, yn wahanol i’r hyn sy’n digwydd yn Lloegr.
‘Colli tafarnau’
Mae Nik Antona, cadeirydd CAMRA, wedi llongyfarch Vaughan Gething ar ei fuddugoliaeth wrth ddod yn arweinydd Llafur Cymru, ac yn ei wahodd i dafarn o’i ddewis i drafod y sefyllfa.
“Rydym yn gwybod fod ganddo fe lawer yn ei fewnflwch, ond bydd yfwyr cwrw a’r rhai sy’n mynychu tafarnau ledled y wlad yn dymuno bod gwarchod a hyrwyddo tafarnau cymunedol a chwrw Cymreig ymhlith blaenoriaethau’r Prif Weinidog newydd,” meddai.
“Dyna pam ein bod ni’n ei wahodd i ni roi diod iddo mewn tafarn o’i ddewis i drafod dyfodol ansicr tafarnau, clybiau, bragdai a gwneuthurwyr seidr Cymru.
“Gyda mwy o dafarnau wedi cau neu’n cael eu trosi at ddefnydd arall y llynedd, mae aelodau CAMRA eisiau i Lywodraeth Cymru wneud mwy i atal colli tafarnau fel canolfannau cymunedol ar hyd a lled y wlad.”
Gostyngiad
Yn ôl Chris Charters, Cyfarwyddwr Cymru CAMRA, mae’r mudiad am weld y gostyngiad o 75% ar gyfraddau busnes yn cael ei ailgyflwyno.
“Gyda phrisiau a chostau’n parhau i gynyddu, a’r esgid yn gwasgu ar gwsmeriaid, cael a chael yw hi o ran cyfraddau busnes i nifer o fusnesau cwrw a thafarnau.
“Yn ogystal, hoffwn wahodd y Prif Weinidog i edrych ar wella deddfau cynllunio i roi’r cyfle cyntaf i gymunedau Cymru gymryd perchnogaeth o’u tafarn leol os yw’n wynebu’r bygythiad o gau neu drosi, yn y gobaith y bydd nifer y tafarnau cymunedol yng Nghymru’n cynyddu.”