Mae disgwyl i etholiad cyffredinol gael ei gynnal yng Nghatalwnia ar Fai 12, ar ôl i’r arweinydd Pere Aragonès ddiddymu’r senedd a chyhoeddi’r etholiad.

Bydd y broses ffurfiol yn dechrau fory (dydd Mawrth, Mawrth 19), pan fydd e’n cyhoeddi’r etholiad yn swyddogol.

Bydd gan y pleidiau tan Ebrill 8 i ddewis eu hymgeiswyr, ond mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw eisoes wedi cael eu cyhoeddi.

Bydd Aragonès yn arwain Esquerra, plaid sydd o blaid annibyniaeth, yn erbyn Salvador Illa o’r Sosialwyr.

Y Sosialwyr enillodd yr etholiad yn 2021, ond doedden nhw ddim wedi sicrhau mwyafrif clir.

Gallai Junts per Catalunya ethol Carles Puigdemont yn arweinydd yn dilyn ei gyfnod yn alltud yng Ngwlad Belg, ond gallai amseru’r Bil Amnest effeithio ar ei allu i gymryd y rôl, ac fe allai gael ei arestio pe bai’n dychwelyd i Gatalwnia yn gynnar.

Jéssica Albaich fydd yn arwain Comuns, tra bydd CUP yn dewis eu harweinydd ddiwedd y mis yma.

Alberto Garriga yw dewis Vox, y blaid asgell dde, tra bod disgwyl cyhoeddiad gan Blaid y Bobol a Ciudadans.

Bydd yr ymgyrch etholiadol yn dechrau’n swyddogol ar Ebrill 25, ac yn para tan Fai 10.

Bydd modd gwneud cais i bleidleisio drwy’r post tan Fai 2, a bydd modd bwrw pleidlais rhwng Ebrill 22 a Mai 8.

Bydd ymgyrch etholiad Ewrop yn dechrau ar Fehefin 9, unarddeg diwrnod ar ôl etholiad cyffredinol Catalwnia.

Y gyllideb

Daw’r etholiad ar ôl i Pere Aragonès fethu â chael cefnogaeth i’w Gyllideb ar gyfer 2024.

Roedd e ddwy bleidlais yn brin ar ôl i’r Comuns wrthwynebu’r cynllun gwariant gwerth 43m Ewro, o ganlyniad i ffrae tros ddatblygu casino.

Ar ôl i’r Gyllideb gael ei gwrthod, galwodd Pere Aragonès yr etholiad ar unwaith, gyda’i gyfnod wrth y llyw i fod i ddod i ben y flwyddyn nesaf.

Does yna’r un arlywydd wedi para tymor llawn yng Nghatalwnia ers 2010.