Mae cwmni Tata Steel wedi cyhoeddi eu bod nhw’n cau’r ffyrnau golosg ar eu safle ym Mhort Talbot ar unwaith, gan fod eu cyflwr wedi dirywio.

Yn wreiddiol, roedd disgwyl iddyn nhw gau ymhen tri mis.

Byddan nhw’n cau’n derfynol ddydd Mercher (Mawrth 20), yn ôl datganiad gan Brif Weithredwr y cwmni dur, sy’n dweud bod y penderfyniad wedi’i wneud o ganlyniad i “sefydlogrwydd gweithredol” y ffyrnau’n “dirywio’n sylweddol”.

“Yn ein trafodaethau diweddar â’n cydweithwyr o’r undebau llafur, mae’r angen i derfynu gweithrediadau yn Ffyrnau Golosg Morfa ac un o’r ddwy ffwrnais chwyth yr haf yma’n cael ei ddeall,” meddai Rajesh Nair.

“Mae perfformiad y ffyrnau golosg wedi bod yn dirywio dros nifer o fisoedd, er gwaethaf ymdrech lew gan y timau yno.

“Bellach, mae cyflwr y ffyrnau wedi gwaethygu i lefel sy’n gwneud gweithrediadau parhaus yn amhosib.

“Byddwn bellach yn dechrau’r broses o gau a chlirio’r ffyrnau golosg yn ddiogel, a therfynu gweithrediadau yn y ffatri isgynhyrchion gysylltiedig.

“Byddwn yn gweithio’n galed dros yr wythnosau i ddod i ddeall dyheadau’r gweithlu ffyrnau golosg presennol, yn unol â’n rhaglen ymgynghori ehangach barhaus.”

‘Ysbryd’

Mae Rajesh Nair wedi canmol “ysbryd a brawdgarwch” y gweithlu ar y safle ers ei agor yn 1981, sydd “wedi rhoi popeth i’r ffatri, yn aml o dan amgylchiadau anodd iawn”.

Dywed fod eu hymdrechion “wedi bod yn hanfodol i oroesiad gweithfeydd Port Talbot”, ac y dylen nhw “ymfalchïo” o fod yn rhan o’r tîm.

Bydd asedau haearn a dur trwm y safle’n cau erbyn diwedd y flwyddyn, meddai, wrth iddyn nhw ddechrau canolbwyntio ar ffwrnais arc trydan gwerth £1.25bn.

‘Angen sicrwydd’

Dywed Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig Llafur yn San Steffan, fod angen sicrwydd ar y gweithwyr sy’n cael eu heffeithio.

“Mae hwn yn ddiwrnod anodd eto i’n diwydiant dur Cymreig, o ganlyniad i bryderon diogelwch dealladwy,” meddai.

“Mae angen sicrwydd ar y gweithwyr hynny sy’n cael eu heffeithio ynghylch eu dyfodol.

“Bydd Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig yn buddsoddi yn ein diwydiant dur er mwyn sicrhau bod y symudiad at ddur gwyrdd yn cael ei danio gan sgiliau, doniau ac uchelgais gweithwyr dur Cymru.”

Yr un yw’r alwad gan y Ceidwadwyr Cymreig, sy’n dweud nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth i’r diwydiant ers 2019.

“Dydy gweinidogion Llafur ddim wedi gwneud unrhyw beth ond beirniadu, a phan ddaeth yr amser i roi arian ar y bwrdd, wnaethon nhw ddim cynnig ceiniog – mae angen i hynny newid gyda’r newyddion heddiw,” meddai Tom Giffard a Dr Altaf Hussain mewn datganiad ar y cyd.