Mae bwrsariaeth newydd wedi cael ei chyflwyno er cof am Dr Llŷr Roberts i gefnogi myfyrwyr Cymraeg.

Bydd y fwrsariaeth gan y Coleg Cymraeg ar gyfer myfyrwyr is-raddedig sy’n astudio unrhyw bwnc drwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn noddi taith at bwrpas sy’n gysylltiedig â’u hastudiaethau ac sy’n berthnasol i’r Gymraeg neu Astudiaethau Cymreig.

Y bwriad yw rhoi hyd at £2,000 y flwyddyn, gyda hyd at bedwar dyfarniad o ryw £500 i bob myfyriwr llwyddiannus.

Cafodd y fwrsariaeth ei sefydlu i gofio am Dr Llŷr Roberts, un o ddarlithwyr cysylltiol cyntaf y Coleg Cymraeg, fu farw’n sydyn fis Mehefin diwethaf yn 45 oed.

Bydd y fwrsariaeth yn cael ei lansio yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor heno (nos Lun, Mawrth 19).

‘Cyfaill a chydweithiwr annwyl iawn’

“Roedd Llŷr yn gyfaill ac yn gydweithiwr annwyl iawn,” meddai Dr Dafydd Trystan, Cyfarwyddwr Datblygu Strategol ac Addysg Bellach a Chofrestrydd y Coleg Cymraeg.

“Fe oedd un o’r Darlithwyr Cysylltiol cyntaf i gael ei benodi i swydd dan nawdd y Coleg Cymraeg.

“Aeth ymlaen i wneud cyfraniad amlweddog i addysg uwch cyfrwng Cymraeg ym maes Busnes ym Mhrifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac yn fwyaf diweddar, ym Mhrifysgol Bangor.

“Mewn amser byr gwnaeth Llŷr argraff fawr ar ei gyd-weithwyr a’i fyfyrwyr. Yn 2022, enillodd wobr gan y Coleg am Adnodd Rhagorol am greu’r e-lyfr cyntaf ym maes Marchnata yn yr iaith Gymraeg.

“Roedd Llŷr yn angerddol am yr iaith Gymraeg, am astudiaethau busnes a marchnata, am gerddoriaeth ac am deithio.

“Mae ei waddol yn glir, ac mae’n briodol ein bod wedi sefydlu’r fwrsariaeth yma i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr gyda’u hastudiaethau cyfrwng Cymraeg.”

Urddo Cymrodorion er Anrhydedd

Fel rhan o’r noson, bydd y Coleg Cymraeg yn urddo tri Chymrawd er Anrhydedd am gyfraniad oes tuag at addysg ôl-orfodol cyfrwng Cymraeg hefyd.

Y tri fydd yn cael eu hanrhydeddu yw:

  • Yr Athro Delyth Prys, cyn-bennaeth yr Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr, Bangor;
  • Wyn Thomas, fu’n datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ym maes cerddoriaeth ym Mangor;
  • Linda Wyn, cyn-bennaeth Coleg Meirion Dwyfor a Choleg Menai.

Bydd myfyrwyr PhD yn derbyn tystysgrifau gan y Coleg Cymraeg hefyd.

Fe fydd ceisiadau am Fwrsariaeth Cronfa Llŷr yn agor yn ystod tymor yr haf, gyda’r bwriad o gyhoeddi’r enillwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym mis Awst.