Mae 50,000 o wenyn wedi cael eu gwarchod wrth wneud gwaith ar do un o adeiladau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhen Llŷn.
Roedd pum haid o wenyn mêl duon Cymreig yn byw yn nho Plas yn Rhiw, ac maen nhw wedi cael eu symud i gartref newydd tra bo gwaith ail-doi yn cael ei gwblhau.
Does dim gwaith o’r fath wedi cael ei wneud ar yr adeilad ers dros 200 o flynyddoedd, medd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.
Y gred oedd fod gwenyn mêl duon wedi diflannu o ogledd gwledydd Prydain, ac eithrio’r ardaloedd mwyaf anghysbell, ond cawson nhw eu hailddarganfod yn 2012, gyda rhai ohonyn nhw yng ngogledd Cymru.
Llwyddodd SwarmCatcher, sy’n arbenigo mewn symud ac ail-leoli gwenyn, i’w casglu a’u symud i gychod gwenyn gerllaw.
‘Mêl yn diferu drwy’r craciau’
Cafodd Plas yn Rhiw, sydd ym mhen draw Llŷn, ei achub rhag mynd â’i ben iddo gan dair chwaer, Eileen, Lorna a Honora Keating, yn 1938.
Flynyddoedd wedyn, fe wnaethon nhw benderfynu rhoi’r tŷ dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ar yr amod bod y gwenyn yn y to yn cael eu gwarchod.
“Gwyddom fod y chwiorydd Keating yn hoff iawn o natur a bywyd gwyllt, oherwydd fe wnaethon nhw ymgyrchu’n ddiflino i amddiffyn yr amgylchedd ac roedden nhw’n gefnogwyr pybyr i’r Cyngor Diogelu Cymru Wledig,” meddai Mary Thomas, Rheolwr Gweithrediadau Eiddo ym Mhlas yn Rhiw.
“Mae Plas yn Rhiw yn hafan i fywyd gwyllt. Pan aeth y chwiorydd Keating ati i adfer y tŷ, does ryfedd eu bod wedi’i wneud yn gartref i fywyd gwyllt yn ogystal ag iddyn nhw eu hunain.
“Ochr yn ochr â’r cwningod yn yr ardd a’r moch daear yn y coetir, estynnwyd croeso i’r gwenyn yn y to, ac mae’r un peth yn dal i fod yn wir heddiw – hyd yn oed pan fydd mêl yn diferu o dro i dro trwy’r craciau yn y waliau yn ystod yr haf!
“Pleser yw gallu symud y pum haid yn ddiogel i gychod gwenyn gerllaw tra byddwn yn mynd i’r afael â’r gwaith toi.”
Bydd hen lechi’n cael eu hailddefnyddio ar y to lle bynnag bo modd, a byddan nhw’n defnyddio dros 4,000 o lechi o Chwarel y Penrhyn hefyd.