Bydd ymgyrchwyr yn cyfarfod o flaen y Senedd yr wythnos nesaf i alw am warchod Gwastadeddau Gwent.
Ddydd Llun (Mawrth 18), bydd Pwyllgor Deisebau’r Senedd yn trafod deiseb Ymddiriedolaeth Natur Gwent, sy’n galw am atal datblygiadau newydd mawr yn yr ardal.
Mae Gwastadeddau Gwent yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI), ac yn ôl yr Ymddiriedolaeth mae sawl cais cynllunio i ddatblygu’r ardal wedi’u cyflwyno yn y blynyddoedd diwethaf.
Yn 2019, llwyddodd yr elusen i atal cynllun ffordd liniaru’r M4, fyddai wedi golygu datblygu rhan o’r gwlyptiroedd.
Bellach, mae pryderon o’r newydd am ddatblygiadau yn y dyfodol, gan gynnwys ffermydd solar.
Un o’r cynlluniau sy’n achosi pryder i ymgyrchwyr yw cynllun fferm solar Craig y Perthi, fyddai’n cael ei hadeiladu rhwng yr M4 ac i’r gogledd o waith dur Llanwern.
Yn ôl y datblygwyr, byddai’n cynhyrchu digon o ynni i gyflenwi 45,000 o gartrefi, ac yn arbed dros 3,180,000 tunnell o garbon deuocsid.
‘Hunllefus’
Dydy’r system gynllunio ddim yn addas ar gyfer ei phwrpas ar hyn o bryd er mwyn amddiffyn y Gwastadeddau rhag datblygiadau, yn ôl Mike Webb, rheolwr cynllunio Ymddiriedolaeth Natur Gwent.
“Ein gobeithion ni ydy bod y pwyllgor [deisebau] yn gallu perswadio’r Llywodraeth i wneud newidiadau bach yn ein system cynllunio i wneud yn siŵr bod rhyw fath o foretoriwm yn rhoi stop yn gyfangwbl ar ddatblygiadau mewn SSSIs,” meddai wrth golwg360.
“Mae’n hanfodol bwysig; Gwastadeddau Gwent yw un o’r SSSIs mwyaf yng Nghymru o safbwynt tir gwlyb.
“A’r unig SSSI yng Nghymru sy’n cael ei thargedu gan ddatblygwyr.”
Mae’r bygythiad bellach “yr un mor drwm” â bygythiad yr M4 ychydig flynyddoedd yn ôl, meddai.
“Fysa chi’n meddwl y bysa datblygwyr yn trio osgoi ardal sydd yn SSSI ac ardal sydd wedi cael ei dynodi ar lefel Prydain Fawr o safbwynt ei phwysigrwydd i fywyd gwyllt.
“Mae’n hurt bod y datblygwyr yn ei ffeindio hi’n hawdd targedu ardal fel hyn.
“Dros y blynyddoedd, mae’r ffordd mae datblygwyr a phobol sy’n cymryd penderfyniadau ar y cynllunio ar ddatblygiadau wedi bod yn ystyried y Gwastadeddau fel rhywle sydd ddim yn ryw sbesial iawn, rhywle lle fedrwch chi roi datblygiadau fysa chi ddim eisiau eu cael ynghanol trefi, pentrefi neu ddinasoedd.
“Mae’n hunllefus y ffordd mae’r Gwastadeddau wedi dod dan fygythiad eto ar ôl i ni lwyddo i wrthsefyll bygythiad yr M4.”
Mae’r grŵp am anfon llythyr agored at y Senedd hefyd, a dywed Mike Webb na fyddan nhw’n rhoi’r gorau i warchod yr ardal.
“Rydyn ni’n bendant ein bod ni eisiau achub y Gwastadeddau, a byddwn ni yma’n brwydro o hyn ymlaen,” meddai.
‘Perygl gwirioneddol’
Un sy’n cefnogi’r ymdrechion yw Iolo Williams, y cyflwynydd a naturiaethwr.
“Mae Gwastadeddau Gwent yn fendigedig o brydferth, yn gyfoeth o fioamrywiaeth, a does dim posib eu cyfnewid,” meddai.
“Mae yna berygl gwirioneddol clir y gall datblygiadau o bob math ddifetha’r ardal gyfoethog, hyfryd hon, gan arwain at golli cynefinoedd hollbwysig – a byddai hynny’n cael effaith andros o niweidiol ar nifer o rywogaethau prin.
“Rhaid gwarchod y gwlypdiroedd hyn yn iawn ar frys, gan eu bod nhw’n werthfawr iawn i bobol ac i fywyd gwyllt.”
Bydd y digwyddiad ar risiau’r Senedd yn dechrau am 12:30yp ddydd Llun, Mawrth 18.