Mae Cymdeithas y Cymod, un o brif fudiadau heddwch Cymru, yn galw ar fusnesau Cymru i roi’r gorau i gyflenwi arfau i Luoedd Amddiffyn Israel.

Mae’r mudiad yn gobeithio tynnu sylw at y dylanwad mae busnesau masnachu arfau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru yn ei gael ar y gwrthdaro presennol yn Gaza.

Mae Cymdeithas y Cymod yn nodi bod sawl busnes yng Nghymru’n cyflenwi Lluoedd Amddiffyn Israel â thechnoleg arfau a gwyliadwriaeth ar hyn o bryd.

Yn ôl y mudiad, mae’r dechnoleg sy’n cael ei darparu gan y busnesau yn cael ei defnyddio’n uniongyrchol yn y rhyfel yn Gaza.

Mae’r rhain yn cynnwys y cwmni Teledyne Technologies ym Mhowys, sef yr allforiwr mwyaf yn ôl cyfaint o arfau o wledydd Prydain i Israel, a JCB sy’n cynhyrchu a chyflenwi cerbydau milwrol o’u ffatri yn Wrecsam.

Mae’r mudiad hefyd wedi tynnu sylw at Elbit Systems, sy’n darparu 85% o’r dronau sy’n cael eu defnyddio gan fyddin Israel, ac sy’n eu profi ar safleoedd yr awyrlu yn Fali ym Môn ac Aber-porth yng Ngheredigion.

Rôl Cymru yn y rhyfel

Yn ôl Rhun Dafydd, cadeirydd y mudiad, mae Cymru wedi chwarae rôl yn y “golygfeydd erchyll yn Gaza” yn sgil eu hallforion.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddwyn busnesau a fu’n ymwneud â’r rhyfel hwn i gyfrif a sicrhau bod llwybr hyfyw ar gyfer heddwch hirdymor yn y Dwyrain Canol,” meddai.

“Er nad yw masnach yn fater datganoledig, mae gan Lywodraeth Cymru’r gallu i roi pwysau ar y busnesau hyn ac adeiladu ar eu safiad dros gadoediad yn Gaza a gweithio gyda llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau eu bod yn torri cysylltiadau â’r Fyddin Amddiffyn Israel.”

Ychwanega Cymdeithas y Cymod eu bod yn credu bod mwy i’w wneud gan y gymuned ryngwladol i sicrhau bod yna broses heddwch hirdymor ar waith yn y Dwyrain Canol.

“Ni ddylai busnesau yng Nghymru allu gwneud elw o’r rhyfel presennol hwn yn Gaza nag unrhyw un ledled y byd,” meddai.