Mae Rhys ab Owen, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru, wedi ymddiheuro am ei ymddygiad, oedd “yn llawer is na’r safon a ddisgwylir”.
Mae e wedi’i wahardd o’r Senedd am chwe wythnos, yn dilyn cwynion ei fod e wedi cyffwrdd â dwy ddynes yn amhriodol a’u rhegi.
Roedd disgwyl iddo ymddiheuro gerbron Aelodau’r Senedd ym Mae Caerdydd, ond dywed na fydd hynny’n bosib gan fod ei nai newydd-anedig yn sâl yn yr ysbyty.
Dywed y byddai wedi cyflwyno’i ymddiheuriad yn Saesneg, gan ei fod e “eisiau siarad yn uniongyrchol â phob aelod”.
‘Cyfnod hir ac anodd’
Yn ôl Rhys ab Owen, mae’r cwynion yn ymwneud â digwyddiad yn 2021, pan oedd staff Plaid Cymru ar noson allan.
Er ei fod yn cyfaddef fod ei ymddygiad yn wael, mae’n gwadu’r honiadau yn ei erbyn, ac mae’n feirniadol o’r broses arweiniodd at ei wahardd o’r Senedd.
Ers i adroddiad y Pwyllgor Safonau gael ei gyhoeddi yr wythnos ddiwethaf, mae wedi’i wahardd gan Blaid Cymru ond ni fu’n aelod o Grŵp Plaid Cymru yn y Senedd ers i’r ymchwiliad ddechrau yn 2022.
Pe bai’n Aelod Seneddol yn San Steffan, ac nid yn Aelod o Senedd Cymru, byddai’n wynebu’r posibilrwydd o ddeiseb i’w symud o’i swydd, fyddai’n arwain at is-etholiad.
“Hoffwn ddechrau gydag ymddiheuriad: i’r bobol y mae fy ymddygiad wedi effeithio’n uniongyrchol arnynt, i’m teulu, i chi, fy nghydweithwyr yn y Senedd ac i’r cyhoedd yr wyf yn eu gwasanaethu,” meddai.
“Rwyf wedi eich gadael i lawr.
“Roedd fy ymddygiad ar y noson dan sylw yn llawer is na’r safon a ddisgwylir gan aelod etholedig.
“Ac am hynny rwy’n ymddiheuro’n ddiamod. Yn bennaf i’r rhai oedd yn bresennol ac effeithiwyd gan fy ymddygiad y noson honno, bron i dair blynedd yn ôl bellach.
“I chi, fy nghydweithwyr. I fy nheulu. Ac i’r cyhoedd.
“Cefais ormod i yfed y noson honno ac ymddwyn yn wael.
“Rwy’n derbyn cyfrifoldeb am fy ymddygiad a chanlyniadau’r ymddygiad hwnnw.
“Yr wyf felly hefyd yn derbyn y gosb a roddwyd i mi, hyd yn oed os oes gen i bryderon mawr ynghylch sut y’i cyrhaeddwyd.
“Ac mae gen i bryderon.
“Er fy mod yn parchu rheidrwydd y broses hon, roedd ei hyd a’i diffyg tryloywder yn heriol i bawb.
“Mae’n iawn bod gennym broses o’r fath, ond mae angen i’r broses honno wella. Ac mae’n rhaid iddi wella – i bawb.
“Cyflwynwyd y gŵyn i’r Comisiynydd Safonau ar 1 Gorffennaf 2022.
“Mae bellach yn 13 Mawrth 2024.
“Mae dros ugain mis wedi mynd heibio…. 622 diwrnod.
“Ni ddylai ond un person ymchwilio a phenderfynnu ar fater fel hyn yn enwedig pryd nad oes ychwaith unrhyw ffordd i herio neu apelio yn erbyn y canlyniad, ac eithrio adolygiad barnwrol a allai gostio chwe ffigur.
“Byddai cost o’r fath yn atal y mwyafrif, ac eithrio’r cyfoethog iawn, rhag apelio; sy’n amlygu rhwystr real i degwch.
“Byddwn yn dychmygu ei fod yn swm tu hwnt i’r rhan fwyaf yma yn y Senedd.
“Ond y rheolau – fel y maen nhw – yw’r rheolau, a rhaid i mi gadw atynt. Rwy’n cadw atynt.”
‘Unigolyn gwell a chynrychiolydd mwy ymroddedig’
Dywed Rhys ab Owen ei fod e wedi newid ei ymddygiad er gwell ers y digwyddiad dan sylw.
Ac mae’n annog y cyhoedd i ddarllen yr adroddiad i’r honiadau cyn gwneud sylw a dod i gasgliad.
“Mae’r profiad hwn wedi dysgu pwysigrwydd tosturi i mi a pheidio â diffinio eraill yn ôl eu pwyntiau isaf,” meddai.
“Gochelwn rhag rhuthro i farn; beth bynnag yw fy mhechodau i, nid dyma’r hyn a ddisgrifiwyd gan rhai sylwebyddion ar y cyfryngau.
“Byddwn felly yn annog pawb i ddarllen adroddiad y Pwyllgor yn ofalus cyn cynnig eu sylwadau.
“Wrth gwrs, mae gwneud camgymeriadau yn ddynol. Ac er mai lle i eraill yw cynnig maddeuant, mae’n rhaid i mi ddangos bod hynny yn bosib.
“Rwyf wedi gwneud newidiadau personol sylweddol, gyda’r nod o ddod nid yn unig yn unigolyn gwell ond hefyd yn gynrychiolydd mwy ymroddedig i’m hetholwyr.
“Rwyf wedi gwneud fy ngorau glas i weithio’n galed ar ran fy etholwyr wrth i’r broses hon fynd rhagddi.
“Nid wyf wedi eu gadael i lawr o ran y gwaith yr wyf yn ei wneud ar eu rhan, er fy mod wedi eu gadael i lawr yn y mater hwn.
“Hoffwn ddiolch i fy ngwraig a fy nheulu am eu cariad a’u cefnogaeth. Fe’i dychwelaf atoch yn awr, pan fydd ei angen fwyaf arnoch.
“Hoffwn ddiolch i fy nghyd-aelodau – o bob ochr – ac etholwyr sydd wedi dangos gofal tuag ataf yn ystod y broses hir hon. Rwy’n ei werthfawrogi yn fawr.
“Diolch yn fawr.”