Mae aros deng mlynedd i gael diagnosis o endometriosis yn “hollol annerbyniol”, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

Menywod Cymru’n sy’n aros hiraf o blith gwledydd Prydain, ac maen nhw bellach yn aros blwyddyn yn hirach nag yr oedden nhw yn 2020, yn ôl Endometriosis UK.

Mae endometriosis yn achosi i feinwe fel sydd i’w chael yn y groth i ffurfio mewn organau eraill, megis yr ofari neu’r tiwbiau Ffalopaidd.

Mae meinwe yn adeiladu bob mis, yn torri i lawr ac yn gwaedu, a does unman i’r gwaed fynd, gan aros yn y corff gan achosi poen ddifrifol a blinder dwys.

Gall achosi trafferthion wrth feichiogi hefyd.

Mae triniaethau ar gael ar gyfer y cyflwr, ond does dim gwellhad llwyr.

Cyflwr poenus

“Mae aros deng mlynedd yn ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru’n hollol annerbyniol, heb sôn am gyflwr mor boenus sy’n cael effaith ar fywydau,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru wneud yn well i wella’r sefyllfa hon i fenywod ar hyd a lled Cymru.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cynnig pleidlais i’r darpar Brif Weinidog i ddileu prosiectau gwagedd costus Llafur, megis creu 36 yn rhagor o wleidyddion, i symud y ffocws yn ôl at roi adnoddau llawn i’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi ariannu nyrsys endometriosis ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru.

Maen nhw’n dweud bod adborth yn awgrymu bod cleifion yn teimlo bod ganddyn nhw gefnogaeth, llais a gwell dealltwriaeth o’u cyflwr oherwydd hynny.

Ond yn ôl llefarydd, mae’r Llywodraeth yn deall bod “lle i wella”, ac maen nhw’n cydweithio â nyrsys i fynd i’r afael â hynny.