A hithau’n Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth yr wythnos hon (Mawrth 18-24), mae cwmni cymunedol newydd yn lansio yng Nghymru gyda chynhadledd.

Cymuned o entrepreneuriaid niwrowahanol yng Nghymru yw NeuDICE, ond mae’n ymestyn yn fyd-eang.

Ynganiad cywir yr enw yw ‘New Dice’, a daw’r enw o’r syniad ei bod hi’n amser “rholio’r dis o’r newydd”.

“Dydy busnes yn ôl yr arfer ddim yn gweithio,” medd datganiad ar eu gwefan.

“Mae’n dibynnu ar ddiwylliannau a ffyrdd o weithio sydd wedi’u cynllunio o amgylch un set o niwroteipiau.

“Mae hyn yn iawn yn nhermau sefydlogrwydd lle mae arloesedd yn amherthnasol neu’n annymunol.

“Nid amserau o’r fath yw’r rhain. Amserau o ansicrwydd a newid yw’r rhain.

“Mae angen diwylliannau a ffyrdd o weithio arnom sy’n galluogi pobol â gwahanol ffyrdd o feddwl i ddod ynghyd i arloesi a chreu datrysiadau newydd.

“Mae angen diwylliannau a ffyrdd o weithio niwrogynhwysol arnom.

“Mae hyn yn golygu bod angen modelau newydd o wneud busnes arnom.

“Ac mae hyn yn golygu bod angen NeuDICE arnom.

“Yn NeuDICE, rydym yn cefnogi pobol niwrowahanol i ddatblygu eu potensial busnes llawn ac rydym yn cefnogi busnesau i ddatblygu diwylliannau niwrogynhwysol.”

Pwyslais ar les a iechyd meddwl

“Ers y cyfnod clo, bu pwyslais cynyddol ar les ac ar iechyd meddwl,” medd datganiad i’r wasg.

“Ffocws gwirioneddol y gwaith yn y sector hwn yw nodi cyflyrau iechyd meddwl a/neu niwrolegol, yn enwedig ymhlith pobol ifanc.

“Ond ble bydd y bobol hynny’n gweithio ar ôl cael diagnosis ffurfiol?

“Mae’r Gymuned Niwrowahanol a Chynhwysol o Entrepreneuriaid NeuDICE yn credu eu bod yn rhan hanfodol o’r gweithlu.

“Mae angen ni ar y Deyrnas Unedig.

“Mae ein hangen ni fel rhan o gyd-ddylunio datrysiadau.

“Mae ein hangen ar gyfer dyfodol economaidd cryf a sefydlog.

“Mae ein hangen ni ar gyfer cymunedau cryfach.

“Dyma oedd cyfraniad Anne Collis o NeuDICE i Adolygiad Buckland diweddar Llywodraeth San Steffan ar gyflogi oedolion awtistig.

“Gyda thros 70% o ddiweithdra ar gyfer pobol awtistig, mae mwy yn troi at hunangyflogaeth ac entrepreneuriaeth, ond wedyn yn wynebu ragor o rwystrau.

“Mae NeuDICE yn darparu cymuned lle gall busnesau dan arweiniad niwrowahanol gefnogi ein gilydd i oresgyn y rhwystrau presennol a gweithio am ddyfodol mwy teg.”

Y gynhadledd

Bydd Dr Sara Louise Wheeler, y bardd a cholofnydd golwg360, yn brif siaradwr yn y gynhadledd.

Bydd cyfle hefyd i entrepreneuriaid niwrowahanol, academyddion, a darparwyr cymorth busnes gyfrannu at faniffesto newydd ar gyfer entrepreneuriaeth niwroamrywiol yng Nghymru.