Bydd cynnig gan Blaid Cymru yn galw am gyflwyno cap ar roddion gwleidyddol yn cael ei drafod yn y Senedd yfory (dydd Mercher, Mai 1).
Daw hyn ar ôl dadlau mawr ynghylch y rhoddion gafodd eu derbyn gan Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, pan oedd yn Weinidog yr Economi yn y Llywodraeth Lafur.
Mae wedi dangos agwedd “ddirmygus” tuag at roddion gwleidyddol, yn ôl Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, a bydd yn rhaid iddo wynebu pleidlais.
Derbyniodd e rodd o £200,000 i’w ymgyrch arweinyddol i fod yn arweinydd Llafur Cymru gan David Neal o Dauson Environmental Group, oedd wedi’i gael yn euog o droseddau amgylcheddol.
Datgelodd adroddiadau dilynol fod Dauson Environmental Group Ltd mewn dyled o £400,000 i Fanc Datblygu Cymru – banc sy’n eiddo’n gyfangwbl i Lywodraeth Cymru.
Cafodd y benthyciad ei ddyfarnu i’r cwmni pan oedd Vaughan Gething yn Weinidog yr Economi.
‘Dim ond ymchwiliad annibynnol all ddod â’r bennod ddrewllyd hon i ben’
Dywed Rhun ap Iorwerth fod Vaughan Gething wedi dangos “agwedd ddirmygus tuag at roddion gwleidyddol” wrth dderbyn y rhodd enfawr gan unigolyn “yr oedd yn gwybod ei fod wedi’i gael yn euog o droseddau amgylcheddol”.
Dywed fod hyn yn codi “cwestiynau ehangach am grebwyll y Prif Weinidog”.
Mae Plaid Cymru wedi galw am ymchwiliad annibynnol i “ddod â’r bennod ddrewllyd hon i ben”.
Galwodd arweinydd Plaid Cymru ar y Prif Weinidog i gefnogi galwadau Plaid Cymru, drwy gomisiynu ymchwiliad annibynnol a chefnogi cap ar roddion unigol er mwyn adfer ymddiriedaeth y cyhoedd yng Nghymru.
“Nid yn unig na fyddai’r swm syfrdanol o arian yn bodloni cymeradwyaeth y cyhoedd, ond mae hefyd yn codi cwestiynau ehangach am farn y Prif Weinidog,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Dim ond ymchwiliad annibynnol all ddod â’r bennod ddrewllyd hon i ben.
“Diben cael ein Senedd ein hunain yw gallu gwneud pethau’n wahanol, a’u gwneud yn well.
“Mae’n ymddangos nad oes gan y Prif Weinidog ddiddordeb llwyr mewn achub ar y cyfle hwn.
“Os yw am gael unrhyw obaith o adfer ymddiriedaeth y cyhoedd yng Nghymru, rhaid i’r Prif Weinidog ailfeddwl ar fyrder ei fod wedi gwrthod comisiynu ymchwiliad annibynnol ac ymrwymo i gefnogi galwadau Plaid Cymru am gap ar roddion unigol.”