Mae Parc Cenedlaethol Eryri ymysg y deg lle mwyaf “dymunol” yng ngwledydd Prydain i fynd i wersylla gwyllt, ac mae teithiau camperfans ar gynnydd hefyd.

Roedd 12,000 o chwiliadau ar gyfer Eryri bob blwyddyn mewn cysylltiad â gwersylla gwyllt, yn ôl ymchwil sy’n cael ei wneud gan farchnad ar-lein Auto Trader.

Mae’r wefan hefyd yn honni mai mynd ar anturiaethau ‘off-road’ fydd y “duedd fawr nesaf” ar blatfform Pinterest, gyda chynnydd o 90% yn y chwiliadau am ‘wersylla off-road’ a chynnydd o 80% mewn chwiliadau am ‘anturiaethau car’.

Daw’r ystadegau wrth i Gyngor Gwynedd agor eu lleoliad gwersylla cyntaf ar gyfer cartrefi modur yng Nghricieth fis Mawrth.

Y bwriad yw y bydd y lleoliadau parcio dros nos yn golygu bod gan y Cyngor well rheolaeth ar gartrefi modur, ac y bydd ymwelwyr yn gwario mewn trefi.

Mae naw bae ar gal ym maes parcio y Maes yng Nghricieth, sy’n un o bedwar safle peilot yng Ngwynedd.

Mae’r safleoedd yn y Glyn yn Llanberis, Cei’r Gogledd ym Mhwllheli a maes parcio Doc Fictoria yng Nghaernarfon bron yn barod hefyd.

‘Annog gwersylla mewn meysydd swyddogol’

Mae Parc Cenedlaethol Eryri hefyd yn annog pobol i ddefnyddio meysydd gwersylla ffurfiol, ac yn galw ar bobol i archebu lle mewn meysydd gwersylla yn gynnar.

Ynghyd â hynny, maen nhw’n nodi, os ydy rhywun yn cael caniatâd tirfeddiannwr i wersylla ar dir preifat, fod eisiau iddyn nhw adael “heb unrhyw ôl”.

“O fewn y Parc Cenedlaethol, all rhywun ond gwersylla’n wyllt gyda chaniatâd y tirfeddiannwr, mae hynny’n cynnwys tir lle mae mynediad,” meddai Parc Cenedlaethol Eryri mewn datganiad.

“Ni all yr Awdurdod roi caniatâd i bobol wersylla’n wyllt ar dir pobol eraill, a dan reoliadau GDPR ni all yr Awdurdod basio manylion tirfeddianwyr ymlaen heb ganiatâd.”

Ar ôl codi cyfyngiadau Covid-19, maen nhw hefyd yn pwysleisio bod “problemau sylweddol” wedi codi efo pobol yn gwersylla.

Roedd hynny’n cynnwys pobol yn gadael sbwriel, parcio ar ochr ffyrdd, tanau agored a gwneud difrod i fannau penodol.

Dywed yr Awdurdod eu bod nhw’n parhau i “dderbyn nifer uchel o gwynion” gan dirfeddianwyr a’r cyhoedd.

“Felly, mae’r Awdurdod yn annog pobol i ddefnyddio gwersylloedd ffurfio a bwcio’n gynnar.”

O ran cartrefi modur a champerfans, mae’r arfer wedi cynyddu, meddai’r awdurdod.

Ychwanega’r Awdurdod eu bod nhw’n gweithio gyda phartneriaid fel Cyngor Gwynedd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i “annog arfer da, annog pobol i beidio parcio’n anghyfrifol a pheidio campio off-road”.

Wrth gyhoeddi’r ymchwil, dywed Auto Trafer fod “Parc Cenedlaethol Eryri’n gartref i rai o fynyddoedd mwyaf trawiadol a golygfeydd mwyaf dramatig y Deyrnas Unedig”.

“I rai sydd eisiau mynd am antur oddi ar y grid ond sydd ddim awydd cerdded fyny’r Wyddfa, allwch chi yrru o amgylch yr Wyddfa i weld y copa o wahanol lefydd.”

Dartmoor oedd prif safle gwersylla gwyllt gwledydd Prydain, yna Ardaloedd y Llynnoedd ac Ardal y Copaon.

Bannau Brycheiniog oedd yn bedwerydd ar y rhestr, ac Eryri’n bumed.