Mae safle aros dros nos ar gyfer cartrefi modur wedi’i agor gan Gyngor Gwynedd yng Nghricieth.
Dyma’r cyntaf o bedwar safle peilot mae Cyngor Gwynedd yn eu datblygu, er mwyn cael gwell rheolaeth o gartrefi modur yn y sir.
Mae’r safle Arosfan cyntaf wedi’i leoli ym maes parcio’r Maes yng Nghricieth, ond mae gwaith yn cael ei gwblhau ar safle Arosfan y Glyn yn Llanberis ar hyn o bryd.
Mae gwaith ar y gweill hefyd ar safleoedd Cei’r Gogledd ym Mhwllheli a maes parcio Doc Fictoria yng Nghaernarfon.
Wrth i’r safleoedd Arosfan peilot gael eu croesawu, mae’r Cyngor wedi cyflwyno gorchmynion sy’n atal hawl cartrefi modur i barcio dros nos mewn cilfannau ar hyd ffordd A496 i mewn i’r Bermo, ac ar yr A497 ger Cricieth.
Mae gorchymyn ar waith hefyd ar gyfer ardal y Foryd ger Caernarfon, yn dilyn achosion o barcio a gwersylla anghyfrifol yno dros y blynyddoedd diwethaf.
‘Ceisio rheoli’r sefyllfa’
Dywed y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd â chyfrifoldeb dros yr Amgylchedd, y bu “twf sylweddol” mewn ymwelwyr â chartrefi modur yng Ngwynedd dros y blynyddoedd diweddar.
Ychwanega ei bod hi wedi dod “yn glir fod angen cymryd camau i geisio rheoli’r sefyllfa”.
“Mae’r mannau Arosfan yn cynnig safleoedd penodol i berchnogion cartrefi modur allu aros am gyfnodau o hyd at 48 awr, ac yn dilyn trefniadau tebyg i’r hyn sydd i’w weld yn rheolaidd ar y cyfandir gyda safleoedd ‘Aires’,” meddai.
“Ein bwriad ydi annog ymwelwyr mewn cerbydau modur i aros mewn tref neu bentref, gan gynnig elfen o fudd economaidd i’r gymuned leol a chael rheolaeth well dros y sector.”
I gyd-fynd â’r newidiadau, mae’r Cyngor hefyd yn bwriadu datblygu toiledau cyhoeddus ger rhai o’r safleoedd Arosfan.
Mae ceisiadau grant wedi’u cyflwyno i wella’r ddarpariaeth o ran toiledau ger safleoedd Cricieth a Phwllheli.
Ymwelwyr yn “hanfodol”
Yn ôl y Cynghorydd Nia Jeffreys, dirprwy arweinydd ac Aelod Cabinet y Cyngor dros yr Economi a Chymuned, mae’r diwydiant ymwelwyr yn “rhan hanfodol” o’r economi leol.
Er ei bod yn falch fod pobol yn dewis ymweld â Gwynedd, dywed “na ddylai hyn fod ar draul pobol a chymunedau lleol”.
“Yn dilyn galwadau am well rheolaeth o’r defnydd o gartrefi modur, a thrafodaethau gyda defnyddwyr a pherchnogion safleoedd gwersylla, bydd y safleoedd yn cynnig lleoliad delfrydol i’w defnyddio gan bobol ar wyliau teithio sy’n chwilio am le diogel a chyfrifol i aros dros nos,” meddai.
“Mae’r holl safleoedd wedi eu lleoli o fewn pellter cerdded i drefi a chyrchfannau allweddol, ac rydym yn annog defnyddwyr i wneud y mwyaf o siopau a thai bwyta gerllaw, ac ar gysylltiadau trafnidiaeth.”
Bydd y safleoedd Arosfan yn cynnig lle i hyd at naw o gartrefi modur dalu i barcio yno am hyd at 48 awr.
Mae safle Arosfan Cricieth yn cynnwys cyfleusterau megis dŵr ffres, dŵr gwastraff cemegol, ailgylchu a sbwriel cyffredinol.