Byddai colli Plas Tan y Bwlch yn “drychineb”, yn ôl Twm Elias, eu cyn-drefnydd cyrsiau.
Mae’r Plas, sydd wedi’i leoli ym Maentwrog yn Eryri, o dan berchnogaeth Parc Cenedlaethol Eryri, ond oherwydd trafferthion ariannol mae bellach ar y farchnad agored.
Yn ôl Awdurdod y Parc, maen nhw am gynnal trafodaethau er mwyn ceisio dod o hyd i bartneriaethau masnachol i’r Plas.
Fodd bynnag, os na fydd llwyddiant erbyn diwedd cyfnod o chwech mis, byddan nhw’n ystyried prynwyr posib.
Ac yntau wedi gweithio yn y Parc am 35 mlynedd, mae Twm Elias yn credu mai colli’r holl gyrsiau preswyl fyddai’r golled fwyaf pe bai’r Plas yn cael ei werthu.
“Mi oedd y Plas, trwy’r cyrsiau preswyl cyhoeddus, ar fyd natur, archaeoleg, ffotograffiaeth a bob mathau o bynciau, yn galluogi pobol i ddysgu mwy am gefn gwlad na thrwy unrhyw beth arall,” meddai wrth golwg360.
“Y ffordd orau i ddod i adnabod unrhyw ddarn o dir ydy trwy ei gerdded.
“Y mwya’n y byd ti’n gwybod am gefn gwlad, y mwyaf ti’n mynd i werthfawrogi o, a fwyaf ti’n mynd i’w warchod o.”
‘Bwrlwm Eryri’
Dywed fod y Plas yn “werthfawr iawn”, nid yn unig oherwydd ei gyrsiau cyhoeddus a chyrsiau i ysgolion, ond hefyd yr addysg roedd yn ei darparu ar gyfer pobol mewn swyddi proffesiynol yn y maes amgylcheddol.
Yn ôl Twm Elias, bu i ddyn o Inbhir Nis (Inverness) ddod i ymweld â’r Plas ar ôl clywed am y cwrs Bwrlwm Eryri.
Ar ôl hynny, penderfynodd y dyn gyflwyno cwrs preswyl trwy gyfrwng Gaeleg yr Alban ar yr Ynys Hir (Skye) yn yr Alban, er mwyn cyflwyno treftadaeth ddiwylliannol Gaeleg i bobol.
Roedd y cwrs yn edrych ar amryw o feysydd, megis dehongli ystyron enwau lleoedd Gaeleg yn y parciau cenedlaethol, a llên gwerin – yn debyg iawn i gwrs Bwrlwm Eryri.
‘Ddim yn cyflawni’r amcanion’
Yn ôl Parc Cenedlaethol Eryri, dydy’r Plas ddim bellach yn cyflawni amcanion y Parc.
“Mae Bwrlwm Eryri wedi gwneud andros o lot dros yr egwyddor o gyflwyno treftadaeth ddiwylliannol,” meddai Twm Elias wedyn.
“Mae hyn yn un o bwrpasau statudol y Parc.
“Felly i Emyr Williams [Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri] ddweud nad oedd y plas yn cyflawni amcanion y Parc… wel, dw i ddim yn gwybod, yn wir.”
Er nad yw Twm Elias yn cytuno â sylwadau Emyr Williams nad yw’r Plas yn cyflawni ei amcanion, cyfaddefa fod gan y Prif Weithredwr bwynt teg.
Oherwydd heriau ariannol presennol, dydy’r Plas ddim wedi gallu cynnal cymaint o gyrsiau dros y blynyddoedd diweddar.
“Cychwynnodd y broblem yn ôl gyda’r trafferthion ariannol yn 2008, pan ddaeth y Blaid Dorïaidd i rym yn 2010,” meddai Twm Elias.
“Wel, mae ‘torri’ yn rhan o enw’r blaid honno!
“Roedden nhw’n torri’n ôl ar unrhyw wasanaethau cyhoeddus o ran egwyddor.
“Aeth cyllid y Parciau Cenedlaethol i lawr i hanner o fewn rhyw dair, bedair blynedd; roedd y Parc yn ei chael hi’n anodd cynnal Plas Tan y Bwlch.”
Ychwanega fod Covid-19 hefyd wedi cael effaith negyddol, wrth i weithgaredd y Parc orfod dod i derfyn dros dro.
A ddaw eto haul ar fryn?
Fodd bynnag, yn ôl Twm Elias, daw eto haul ar fryn, ac mae’n credu bod modd i’r Plas ddod drwy’r heriau ariannol a chyflawni unwaith eto.
“Mi fuasai’n drychineb i’r Parc gael gwared ar adnodd sydd mor eithriadol o bwysig, ac sydd wedi cyfrannu cymaint,” meddai.
“Dw i’n sicr y bydd yn gallu cyfrannu eto.
“Rydw i wedi cychwyn ymgyrch sydd yn mynd i drio cael mwy o adnoddau i’r Parc i allu ailgynnal gweithgareddau a chyfraniad Plas Tan y Bwlch.”
Noda mai’r Plas yw’r unig ganolfan astudio sydd ar ôl ymysg y Parciau Cenedlaethol.
“Rydan ni’n gobeithio, efallai, sefydlu rhyw fath o bartneriaeth gyda grwpiau cymunedol eraill fuasai’n gallu chwilio am grantiau, fel bod Plas Tan y Bwlch yn gallu parhau gyda’u gwaith, dim jyst er lles Eryri, ond er lles Cymru a Phrydain, a thu hwnt.”
Ychwanega fod angen mynd o ddifrif ar ôl grantiau ar gyfer y Plas, er mwyn gallu cynnal yr adeilad sy’n dirywio ac ailsefydlu’r digwyddiadau yno.
“Ar hyn o bryd, mae’r Plas jyst yn gweithredu fel rhyw bed and breakfast, lle ar gyfer priodasau ac ati,” meddai.
“Mae yna grwpiau annibynnol yn dal i ddefnyddio’r Plas i wneud eu pethau eu hunain, ond dydy hynny ddim yn cynhyrchu digon o incwm.
“Beth sydd ei eisiau ydy i’r Parc o leiaf ddal gafael ar y Plas tan fydd pethau’n gwella, a pheidio cael gwared â’r lle.
“Buasai’n colli adnodd eithriadol o bwysig fel man cyfarfod ac fel man gweithgareddau.
“Mae eisiau partneriaeth yn cynnwys y Parc ei hun, cyfeillion y Plas, a sawl corff arall sydd efo profiad o fynd ar ôl grantiau.”
Dyfodol y Plas
Yn ôl Twm Elias, mae’n rhaid sicrhau i’r dyfodol fod y Plas yn gweithredu er lles y bobol, ac nid er lles cyfalafwyr.
“Beth maen nhw’n mynd i wneud?” gofynna. “Ei werthu o i ryw gwmni sydd eisiau troi’r Plas yn westy pum seren?
“Y cwbl fyddai hynny yn ei wneud fyddai creu cystadleuaeth ychwanegol i westai lleol.
“Duw a ŵyr pa gynlluniau eraill sydd yno.
“Does yna ddim llawer o wybodaeth ynglŷn â phwy sydd wedi dangos diddordeb.”
Ymateb Tan y Bwlch
Dywed llefarydd wrth golwg360 nad ydyn nhw am wneud sylw pellach ar hyn o bryd, gan fod Plas Tan y Bwlch bellach ar y farchnad agored, a bod trafodaethau am bartneriaeth fasnachol ar y gweill.
Fodd bynnag, yn ôl bwrdd y Plas, maen nhw’n “derbyn na all Plas weithredu fel canolfan astudio amgylcheddol, gan fod y ddarpariaeth ar gyfer cyrsiau o’r fath wedi newid yn sylweddol yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, gyda symudiad sylweddol oddi wrth gyrsiau preswyl wythnos o hyd”.
“Mae calendr y Plas yn cadarnhau hyn,” meddai llefarydd.
Mae’r bwrdd hefyd yn nodi y byddai angen cyfalaf o ryw £3m ar y Plas dros y deng mlynedd nesaf.
Ar hyn o bryd, mae’r costau refeniw blynyddol oddeutu £240,000 i £260,000.