Mae ymchwil newydd gan ymchwilwyr, sy’n cael eu harwain gan yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ac Ailsa Henderson, Athro ym Mhrifysgol Caeredin, yn dangos bod trigolion Cymru, Lloegr a’r Alban o blaid uno Iwerddon, yn ôl yr Irish Times.

Cyn hyn, roedd ymchwil ar y pwnc yn gofyn am farn gwledydd Prydain gyda’i gilydd, ond holiadur State of the Union yw’r tro cyntaf i ymchwil ofyn am farn y gwledydd yn unigol.

Yn hytrach na gofyn cwestiynau ‘Ie/Na’, roedd gofyn i bobol gymerodd ran yn yr ymchwil fynegi barn am uno Iwerddon a materion eraill ar sail graddfa -10 (Na) i +10 (Ie).

Ar fater ailuno, roedd Cymru a Gogledd Iwerddon yn mesur 0.6 ar y raddfa, o gymharu ag 1.9 yn yr Alban a 0.9 yn Lloegr.

Ond dywedodd 31% o drigolion Gogledd Iwerddon eu bod nhw’n “bendant” yn gwrthwynebu ailuno a 28% yn “bendant” o blaid.

‘Agweddau’n drawiadol o wahanol’

Yn ôl yr ymchwilwyr fu’n arwain yr arolwg, mae’n dangos bod “agweddau’n drawiadol o wahanol” yn y gwledydd unigol.

Tra bod agweddau trigolion Gogledd Iwerddon “bron iawn yn y canol”, mae agweddau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban “yn fwy cefnogol i ailuno”, medden nhw.

Mae Ailsa Henderson yn cyflwyno casgliadau’r arolwg yn Belfast heddiw (dydd Iau, Mawrth 21).

Dywed fod agweddau at annibyniaeth i’r Alban, ac i’w gwledydd eu hunain, yn “negyddol” yng Nghymru a Lloegr.

Yr Alban sydd fwyaf brwd dros annibyniaeth i Ogledd Iwerddon, meddai, ond mae modd “dehongli’r gefnogaeth i ailuno yng Nghymru a Lloegr yn fwy negyddol, nid annhebyg i ddyheu am gefnu ar broblem”.

Mae’r Alban yn “ddiffuant” o blaid ailuno Iwerddon, medden nhw, tra bod agwedd Lloegr “yn debycach i b***** off“.

‘Anarferol’

“Mae’r syniad fod mwyafrif yn y tair gwlad mewn undeb aml-wladwriaeth â lefelau amrywiol o ddwyster o blaid ymadawiad y bedwaredd gwlad yn yr undeb honno’n anarferol dros ben,” meddai’r Athro Richard Wyn Jones.

“Mae hyn yn arwyddocaol iawn.

“Mae agweddau tuag at Ogledd Iwerddon yn edrych yn wahanol iawn, iawn i agweddau mewn llefydd eraill.

“Mae’n eithriadol o anarferol mewn gwladwriaeth amlgenedlaethol, neu sut bynnag rydych chi’n disgrifio’r Deyrnas Unedig, mai’r farn at ei gilydd yng Nghymru, yr Alban a Lloegr yw y dylid ailuno Iwerddon.

“Yr hyn sy’n wahanol am yr hyn rydyn ni’n ei wneud ydy cymryd y Deyrnas Unedig o ddifrif fel gwladwriaeth pedair cenedl.

“Mae’n anodd iawn casglu data cymharol.

“Mae pobol fel arfer yn siarad am ‘agweddau ym Mhrydain’, heb wahanu Cymru a Lloegr.

“Mae angen i ni fod braidd yn ofalus ynghylch a ydy agweddau’n datblygu.

“Fedrwn ni ddim dweud wrthoch chi beth oedd yn digwydd bum mlynedd yn ôl, na deng mlynedd yn ôl.

“Byddai angen bod yn ofalus rhag rhuthro i gasgliadau mawr.”

Brexit

Maes arall lle mae agweddau’n amrywio’n sylweddol rhwng y pedair gwlad yw Brexit.

Roedd 69% o’r rhai yng Nghymru, a 62% o’r rhai yn Lloegr, bleidleisiodd dros Brexit yn credu bod ffin ar Fôr Iwerddon yn gost oedd yn werth ei thalu, meddai’r ymchwilwyr mewn ymchwil yn 2021.

Dywed yr ymchwilwyr fod “Ddim yn gwybod” yn ateb cyffredin ymhlith y gwledydd eraill wrth drafod Gogledd Iwerddon.

Yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones, mae’r cysyniad fod Gogledd Iwerddon wedi’i haberthu ar gyfer Brexit “yn hollol gyson ag agweddau’r cyhoedd yng ngweddill y Deyrnas Unedig”.

Dywed, ar y cyfan, fod agweddau’n amrywio’n fawr rhwng gwledydd Prydain ar y naill law, a Gogledd Iwerddon ar y llaw arall.

Y Trysorlys a Fformiwla Barnett

Ar fater arian gan y Trysorlys a thrwy Fformiwla Barnett, unwaith eto mae agweddau’n amrywio’n sylweddol, yn ôl yr ymchwil.

Mae pob gwlad yn teimlo eu bod nhw’n cael llai na’r gweddill, medd yr ymchwilwyr, gan ychwanegu bod pawb yn teimlo bod Lloegr yn cael mwy.

Ond mae Lloegr yn teimlo’n gryfach fod yr Alban yn cael mwy na’r teimladau sydd ganddyn nhw at yr arian mae Gogledd Iwerddon yn ei gael.

Dywed yr ymchwilwyr fod mwy o deimladau negyddol ar y cyfan tuag at yr Alban na Gogledd Iwerddon ymhlith trigolion Lloegr.

Dyfodol i’r Undeb?

Yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones, mae agweddau tuag at y Deyrnas Unedig yn awgrymu nad yw teimladau cryf gwleidyddion at yr Undeb yn cael eu hadlewyrchu gan agweddau’r cyhoedd.

Yn ôl Ailsa Henderson, mae’r teimladau cryf o blaid yr Undeb yn dod i ben ger ffiniau Prydain heb gael eu hadlewyrchu yng Ngogledd Iwerddon yn yr un modd â phe bai trafodaeth am ymadawiad Cymru, Lloegr neu’r Alban.