Mae’r Senedd wedi cefnogi galwadau i barhau i gynnig mynediad am ddim i amgueddfeydd Cymru, a hynny yng nghanol pryderon fod toriadau i gyllideb Llywodraeth Cymru’n peryglu casgliadau cenedlaethol Cymru.

Mae Heledd Fychan yn rhybuddio bod ôl-groniad cynnal a chadw gwerth degau o filoedd wedi dirywio i’r fath raddau fel bod Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ofni y gallai orfod gau ei drysau.

Dywedodd yr Aelod Plaid Cymru o’r Senedd wrth y Siambr y byddai methu archwiliad mecanyddol, trydanol a phlymwaith yn golygu cau’r amgueddfa, yn rhannol neu’n llawn, am gyfnod amhenodol.

“Rydyn ni wedi gweld lluniau o gasgliadau amhrisiadwy drws nesaf i fwcedi’n gorlifo â dŵr,” meddai.

“Rydyn ni wedi cael ein rhybuddio am drydanwaith sydd wedi heneiddio, a storfeydd annigonol.”

Fe wnaeth hi gymharu’r sefyllfa â Brasil, gan ddweud bod 92% o gasgliadau’r wlad wedi’u colli mewn tân y gellid fod wedi’i osgoi, ar ôl i rybuddion gan guraduron gael eu hanwybyddu, ac roedd yr amgueddfa’n cael ei thanariannu hefyd.

‘Colli swyddi’

Fe wnaeth yr Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru feirniadu colli swyddi, yn ystod dadl ar y cynnig trawsbleidiol, gafodd ei gyd-gyflwyno gan Tom Giffard (Ceidwadwyr) a Jane Dodds (Democratiaid Rhyddfrydol).

Dywedodd fod sefydliadau diwylliannol i gyd yn rhedeg rhaglenni diswyddiadau, sy’n golygu bod sgiliau hanfodol eisoes yn cael eu colli, heb amser i roi cynlluniau olyniaeth yn eu lle.

“A’r peth gwaethaf oll, mae Llywodraeth Cymru’n helpu i ariannu’r diswyddiadau hyn,” meddai.

Mynegodd hi bryder ynghylch awgrymiadau y gallai mynediad am ddim i amgueddfeydd ddod i ben, gan ddweud bod y polisi wedi bod yn llwyddiannus ers ei gyflwyno o dan arweinyddiaeth Rhodri Morgan yn 2001.

Wrth godi pryderon am effaith hirdymor toriadau, cyfeiriodd hi at erthygl gan Andrew Green, cyn-Lyfrgellydd Cenedlaethol Cymru, yn dwyn y teitl ‘Why is the Welsh Government at war with culture?’

‘Ewyllys gwleidyddol’

Ysgrifennodd Andrew Green y dylai pobol “boeni’n fawr am lywodraeth nad yw eu haelodau’n gallu amgyffred pwysigrwydd hanfodol cynnal a chadw a gwella cefnogaeth gan y wladwriaeth”.

Fe wnaeth llefarydd diwylliant Plaid Cymru hefyd ddyfynnu Pedr ap Llwyd, oedd wedi ymddeol o fod yn Brif Weithredwr y Llyfrgell Genedlaethol ddydd Gwener, fel rhybudd am “fwlch yn yr ewyllys gwleidyddol”.

“Mae ein diwylliant a’n treftadaeth yn bwysig,” meddai.

“Dydyn nhw ddim yn rywbeth braf i’w cael pan fo amserau’n dda; maen nhw’n rhan hanfodol o’n cenedl.”

Mynegodd Tom Giffard, llefarydd y Ceidwadwyr, bryderon am doriadau “anghymesur” i’r gyllideb, gan gwestiynu pam fod y sector celfyddydau a diwylliant wedi wynebu’r ergyd.

Fe wnaeth Tom Giffard gyhuddo gweinidog Cymru o “guddio” tu ôl i egwyddor o gorff hyd braich er mwyn osgoi cyfrifoldeb am benderfyniadau sydd, yn hytrach, yn cael eu gwneud o amgylch y bwrdd.

‘Argyfwng dirfodol’

Dywedodd Sioned Williams, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, fod Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru’n wynebu argyfwng dirfodol.

“Mae’r rhybudd yn glir,” meddai.

“Os nad ydyn ni’n cefnogi’r galwadau yn y cynnig ger ein bron, bydd y gost i ddyfodol ein cenedl yn un na fyddwn ni’n gallu ei fforddio.”

Dywedodd Mike Hedges, aelod o feinciau cefn Llafur sy’n cynrychioli Dwyrain Abertawe, ei bod hi’n bwysig nad yw toriadau’n peryglu’r casgliadau o ganlyniad i ofodau anaddas neu ddiffyg staff arbenigol.

“Mae angen i ni sylweddoli hefyd na allwn ni barhau i wario rhagor o arian,” meddai.

“Gadewch i ni ddod o hyd i lefydd i’w cadw, a gadewch i ni flaenoriaethu pethau – os yw popeth yn flaenoriaeth, does dim byd yn flaenoriaeth.”

Dywedodd Delyth Jewell, sy’n cadeirio Pwyllgor Diwylliant y Senedd, fod staff Amgueddfa Cymru’n aml yn dod i mewn yn y nos i symud celf o’r waliau ac i osod bwcedi i gronni dŵr glaw.

‘Arolwg annibynnol’

Fe wnaeth Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, gydnabod yr heriau mae Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru’n eu hwynebu wrth gynnal a chadw adeiladau sy’n heneiddio.

Dywedodd fod Amgueddfa Cymru wedi derbyn £5m a bod y Llyfrgell Genedlaethol wedi derbyn £2m, sy’n cael ei gadw yn y flwyddyn ariannol nesaf i fynd i’r afael â’r pryderon mwyaf ynghylch cynnal a chadw.

Dywedodd wrth y Senedd ei bod hi wedi comisiynu arolwg annibynnol o reolaeth o’r casgliadau y llynedd, a bod disgwyl adroddiad y mis yma.

Wrth feirniadu sylwadau “braidd yn ffuantus” yr Athro Pedr Llwyd ynghylch diffyg ewyllys gwleidyddol, dywedodd Dawn Bowden ei fod e wedi cael digon o gyfleoedd i fynegi ei bryderon wrthi, ond nad oedd e wedi gwneud hynny.

Pwysleisiodd hi nad yw hi eisiau i Amgueddfa Cymru godi tâl mynediad, ond mewn argyfwng fod rhaid archwilio pob opsiwn i gynhyrchu incwm sydd ar gael.

Cafodd y cynnig ei dderbyn o 27 o bleidleisiau i 16 yn dilyn y ddadl ddydd Mercher (Mawrth 20), gyda saith Aelod o’r Senedd yn atal eu pleidlais a pheth gefnogaeth o feinciau cefn Llafur.

 

Cyhuddo Llywodraeth Cymru o “droi llygad ddall” ar “argyfwng” y casgliadau cenedlaethol

Bydd Plaid Cymru’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu i warchod y sector diwylliant mewn dadl yn y Senedd heddiw (Mawrth 20)