Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o “droi llygad ddall” ar yr “argyfwng” sy’n wynebu casgliadau cenedlaethol y wlad.
Bydd Heledd Fychan, llefarydd diwylliant y Blaid, yn arwain dadl yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Mawrth 20) ar y perygl i’r casgliadau cenedlaethol yn sgil toriadau i’r sector diwylliant, gan alw ar y Llywodraeth i gymryd camau i fynd i’r afael â’r mater.
Mae Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Comisiwn Brenhinol i gyd yn wynebu toriad o 10.5% i’w cyllidebau, gan arwain at golli swyddi.
Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd y toriadau’n golygu bod tua 150 o swyddi’n cael eu colli – 95 yn Amgueddfa Cymru a 70 yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn derbyn toriad o 22%, a Cadw, sy’n edrych ar ôl safleoedd hanesyddol, yn colli 20% o’u cyllid.
Dydy’r arian fydd yn cael ei arbed gan y toriadau i’r tri sefydliad ddim ond yn gyfystyr â 0.02% o’r holl arbedion mae angen i Lywodraeth Cymru eu gwneud.
‘Ar y dibyn’
Yn y ddadl, bydd Heledd Fychan yn galw unwaith eto ar Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Diwylliant, i weithredu ar frys i ddiogelu’r casgliadau ac i weithio gyda’r sector i “sicrhau ei hyfywedd”.
“Mae casgliadau cenedlaethol Cymru yn perthyn i bawb yng Nghymru – maen nhw’n rhan o’n hunaniaeth genedlaethol,” meddai’r Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru.
“Ond ers llawer rhy hir, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cymryd y sectorau diwylliant, celfyddydau a threftadaeth yn ganiataol.
“Mae ein sefydliadau cenedlaethol diwylliannol a threftadaeth ar y dibyn.
“Ni all Llywodraeth Lafur Cymru bellach droi llygad dall at yr argyfwng sy’n wynebu’r sectorau hyn.
“Rwy’n eu hannog i gomisiynu panel o arbenigwyr i ddeall y perygl i gasgliadau a rhoi cynllun ar waith i’w diogelu; gweithio gyda’r sector i sicrhau ei hyfywedd ar gyfer y dyfodol; a sicrhau bod y polisi mynediad am ddim mewn amgueddfeydd yn cael ei gadw i barhau i ysbrydoli pobl o bob oed.
“Mae arnom ddyled iddynt hwy ac i’n cenedlaethau’r dyfodol.”
Wrth gyhoeddi’r Gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, dywedodd Llywodraeth Cymru mai dyma’r sefyllfa “fwyaf cyfyng a phoenus o ran y gyllideb ers dechrau datganoli”.
‘Hollbwysig cydweithio i’w diogelu’
Wrth ymateb yn y Senedd, dywedodd Dawn Bowden bod y casgliadau cenedlaethol yn “rhan ganolog” o’n treftadaeth a’i bod hi’n hollbwysig “ein bod ni’n gweithio gyda’n gilydd” i sicrhau eu bod nhw’n cael eu diogelu.
“Dw i eisiau dechrau drwy roi sicrwydd i’r Senedd fy mod i’n llwyr ymwybodol o’r heriau sy’n wynebu Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrth gynnal adeiladau sy’n dyddio.
“Ac i fod yn glir, bob tro dw i wedi derbyn ceisiadau am gyllid cyfalaf ychwanegol gan Amgueddfa Cymru neu’r llyfrgell genedlaethol, dw i wedi ymateb.”
Dywedodd hefyd ei bod hi wedi ateb cwestiynau ar y mater yn y Senedd cyn heddiw, a’i bod hi ar fin gwneud datganiad ysgrifenedig ar y pwnc cyn i’r ddadl gael ei chyflwyno.
“Y flwyddyn ariannol hon mae Amgueddfa Cymru wedi derbyn £5m a’r llyfrgell genedlaethol wedi derbyn £2m mewn cyllid cyfalaf drwy grant gan Lywodraeth Cymru, fydd yn cael ei roi eto yn y flwyddyn ariannol nesaf er mwyn cydnabod y prosiectau cynnal a chadw pwysicaf.
“Ar ben hynny, mae Amgueddfa Cymru’n derbyn £2m eleni i fynd i’r afael â materion tymor hir, i helpu i ailddatblygu’r Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis, a £1.25m dros dair blynedd i ddatgarboneiddio eu cyllid.
“Mae’r llyfrgell genedlaethol hefyd yn derbyn £250,000 ychwanegol i wneud y gwaith cynnal a chadw pwysicaf, a £920,000 dros y tair blynedd nesaf ar gyfer gwaith datgarboneiddio.”
Soniodd hefyd bod y Llywodraeth yn buddsoddi £1.3m dros dair blynedd mewn prosiectau digidol yn ymwneud â’r casgliadau cenedlaethol.
“Wrth baratoi cyllideb 2024-25, roedd rhaid i Weinidogion wneud y penderfyniadau anoddaf, mwyaf poenus ers datganoli,” ychwanegodd.
“I osgoi unrhyw amheuaeth, gaf i ddweud ar gyfer y record fy mod i’n gwbl ymrwymedig i wella’r gofal a’r mynediad at ein casgliadau cenedlaethol i bobol ledled Cymru?”