Mae Vaughan Gething gam yn nes at fod yn Brif Weinidog Cymru.

Daw hyn ar ôl i Elin Jones, Llywydd y Senedd, gadarnhau bod Brenin Lloegr wedi derbyn ymddiswyddiad Mark Drakeford.

Fe wnaeth Mark Drakeford draddodi ei araith olaf yn Brif Weinidog Cymru yn y Senedd ddoe (dydd Mawrth, Mawrth 19).

Vaughan Gething sydd wedi’i ddewis i fod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru, ond mae Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyflwyno’u hymgeiswyr eu hunain i’w wrthwynebu yn y bleidlais.

Daeth cadarnhad fod Plaid Cymru am enwebu Rhun ap Iorwerth, tra bo Andrew RT Davies am gyflwyno’i enw ar ran y Ceidwadwyr.

Ond mae disgwyl i’r arweinydd Llafur ennill y ras, oni bai bod unrhyw aelod o’i blaid ei hun yn ei wrthwynebu.

Gyda Rhys ab Owen wedi’i wahardd gan Blaid Cymru ar hyn o bryd, mae’n debygol na fydd digon o bleidleisiau yn erbyn Vaughan Gething i’w atal rhag dod yn Brif Weinidog.

Bydd enwebiadau’n agor am 1.30yp heddiw (dydd Mercher, Mawrth 20), ac mae disgwyl i’r Prif Weinidog newydd gael ei gyhoeddi’n fuan wedyn.

Ond cyn i neb ddod yn Brif Weinidog, bydd y Llywydd yn cyflwyno’r enwebai i Frenin Lloegr ei gymeradwyo.