Bydd Andrew RT Davies yn cyflwyno’i enw i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru heddiw (dydd Mercher, Mawrth 20).

Mae disgwyl i Vaughan Gething sicrhau digon o bleidleisiau ar ôl ennill ras arweinyddol Llafur Cymru, gan guro Jeremy Miles gyda 51.7% o’r pleidleisiau.

Ond mae e dan y lach yn sgil sawl ffrae, gan gynnwys ei sylwadau sarhaus am newyddiadurwyr a’r galwadu fu ar iddo ad-dalu £200,000 i gefnogwr ei ymgyrch sydd wedi’i gael yn euog sawl gwaith o droseddau amgylcheddol.

Mae cwestiynau hefyd ynghylch cefnogaeth undebau llafur iddo fe.

Dywedodd Andrew RT Davies y byddai ei blaid yn cefnogi Vaughan Gething ar sawl amod, gan gynnwys dileu’r terfyn cyflymder 20m.y.a. a rhoi’r gorau i’r ymgyrch i gynyddu nifer yr Aelodau yn y Senedd.

Vaughan Gething v Rhun ap Iorwerth v Andrew RT Davies

“Mae’r mathemateg yn mynnu y bydd Vaughan Gething yn sicrhau pleidlais fwyafrifol, ond yn yr hinsawdd wleidyddol sydd ohoni, mae cwestiynau difrifol am farn a thryloywder yn gofyn am ystyried ymgeiswyr amgen,” meddai llefarydd ar ran Plaid Cymru.

Dydy Andrew RT Davies ddim wedi datgan ei fwriad yn gyhoeddus eto, ond mae Gareth Davies, yr Aelod Ceidwadol dros Ddyffryn Clwyd, wedi dweud y bydd yn cefnogi ei arweinydd yn y ras.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn barod i lywodraethu er lles blaenoriaethau pobol yng Nghymru,” meddai.

“Rydyn ni wedi cael 25 mlynedd o fethiant gan Lafur yng Nghymru.

“Mae dirfawr angen newid arnom.”