Bydd Bws Bach y Wlad yn cael ei lansio fis nesaf i wasanaethu ardaloedd gwledig yng ngogledd Sir Gaerfyrddin.
I ddechrau, bydd y bws yn canolbwyntio ar ardaloedd o amgylch Pencader, Llandysul, Llanybydder a Chastell Newydd Emlyn.
Mae’r gwasanaeth, sy’n anelu at wella hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus mewn mannau gwledig, yn llenwi’r bwlch gafodd ei adael pan ddaeth y Bwcabus i ben.
Fe fydd Bws Bach y Wlad, gafodd ei gymeradwyo gan Gyngor Sir Caerfyrddin ddoe (dydd Mawrth, Mawrth 19), yn gweithredu fel cynllun peilot am naw mis, gan redeg pum niwrnod yr wythnos a chynnig prisiau is i bobol ifanc.
‘Cam hanfodol’
Er bod diffyg cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi arwain at ddod â’r Bwcabus i ben y llynedd, mae Llywodraeth Cymru wedi addo cyllid i ddatblygu cynigion trafnidiaeth gymunedol yn y gorllewin fel rhan o’u Cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Bydd Dolen Teifi, sydd â phrofiad o redeg gwasanaethau trafnidiaeth gwirfoddol yn barod, yn mynd ati i ddatblygu cynigion fydd, mae’n debyg, yn gwasanaethu ardaloedd Llandysul a Llanbedr Pont Steffan.
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn dweud eu bod nhw’n gweithio gyda Dolen Teifi a Green Dragon, sy’n darparu trafnidiaeth gymunedol, i osgoi dyblygu.
“Rydym yn llawn cyffro i lansio gwasanaeth Bws Bach y Wlad – cam hanfodol tuag at fynd i’r afael ag anghenion trafnidiaeth ein cymunedau gwledig,” meddai’r Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith.
“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch o fod wedi llwyddo i sicrhau cyllid ar gyfer y cynllun peilot gwych hwn am naw mis.
“Mae’r fenter hon yn cyd-fynd â’n hymrwymiad i ddarparu opsiynau trafnidiaeth dibynadwy a chyfleus, meithrin datblygiad economaidd, a gwella ansawdd bywyd cyffredinol ein preswylwyr.”
Bydd Bws Bach y Wlad yn cael ei lansio ar Ebrill 29, diolch i gyllid gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Prif nod y fenter ydy cysylltu pobol sy’n byw mewn ardaloedd gwledig â lleoliadau lle mae cyfleoedd economaidd a gwasanaethau hanfodol fel gofal iechyd a siopau.