Bydd simnai ar hen safle Alwminiwm Môn yng Nghaergybi yn cael ei ddymchwel ddydd Mercher (Mawrth 20).

Daw hyn wrth i’r safle ddod yn un o ddau borthladd rhydd newydd yn y Deyrnas Unedig.

Roedd yn arfer bod yn gartref i un o gyflogwyr mwyaf Ynys Môn, ond cafodd bron i 400 o swyddi eu colli pan gafodd y safle ei gau yn 2009.

Yn ôl y Cynghorydd Glyn Haines, is-gadeirydd Cyngor Ynys Môn, mae’n rhaid i’r simnai ddod i lawr er mwyn gallu symud ymlaen at ddyfodol “llewyrchus” ar y safle.

“Mae’r simnai wedi bod yn dirnod eiconig yng Nghaergybi; rwy’n cofio iddo gael ei adeiladu 50 mlynedd yn ôl, a heddiw mae’n dod i lawr,” meddai wrth golwg360.

“Ond mewn gwirionedd, dim ond crair ydyw, i raddau, o’r oes a fu.

“Ar ddiwedd y dydd, tiwb hir o goncrit ydyw, does ganddo ddim gwerth esthetig ac mae’n rhaid i ni symud gyda’r oes.

“Byddai’n beryglus beth bynnag, felly mae o angen dod lawr er mwyn i Gaergybi symud ymlaen gyda’i pharc ffyniant.”

Cynrychioli cyfnod o golled

Dywed Glyn Haines ei fod yn croesawu’r ffaith fod y porthladd yn paratoi at fuddsoddiad allai gyflwyno hyd at 13,000 o swyddi wrth ddymchwel y simdde.

Ychwanega y bydd yn cymryd “sawl blwyddyn cyn i ni weld nifer sylweddol o swyddi”, ond fod rhai swyddi wedi’u creu yn barod.

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, mae’n ddiwrnod chwerwfelys wrth i’r ynys ffarwelio â’r swyddi gafodd eu colli dros y blynyddoedd a pharatoi at groesawu rhai newydd.

Ac mae Glyn Haines yn cytuno â’i sylwadau, er ei fod yn credu bod y swyddi eraill gafodd eu colli ar yr ynys yn cael eu hanghofio i raddau.

“Mae Rhun ap Iorwerth yn gywir yn yr hyn y mae’n ei ddweud,” meddai.

“Ond roedd yna lefydd eraill a gollodd swyddi ar yr un pryd ag Alwminiwm Môn.

“Ar union yr un amser yn 2009, fi oedd cynullydd yr undeb yn Eaton Electric yng Nghaergybi, ac fe gollon ni 250 o swyddi yno.

“Felly dw i’n deall bod pobol yn canolbwyntio ar Alwminiwm Môn, ac mae’n drist bod cynifer o swyddi cyflog uchel wedi’u colli yno, ond roedd yna nifer o lefydd eraill a gollodd swyddi ar yr ynys hefyd.”

‘Bachu ar gyfleoedd newydd’

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu bod nhw am brynu safle niwclear Wylfa ar Ynys Môn.

Dywed Glyn Haines fod yr holl ddatblygiadau’n arwydd o ddyfodol ffyniannus i’r ynys, ond fod rhaid dal gafael ar realiti.

“Rwy’n meddwl y bydd yn wych i’r ynys, ond mae’n rhaid ei thymheru â realaeth,” meddai.

“Mae’n ddigwyddiad tymor hir a bydd y swyddi yn cymryd amser.

“Ydy, mae’n mynd i greu miloedd o swyddi, ond mae’n rhaid gwneud hynny yn gyfrifol gan ystyried pobol yr ynys.”

Mae Virginia Crosbie, yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros yr ynys, yn cytuno bod dymchwel y simnai yn ddatblygiad cadarnhaol i’r ardal.

“Does dim yn dangos faint o gynnydd mae Ynys Môn yn ei wneud nawr bod gan yr ynys statws porthladd rhydd yn fwy na dymchwel yr hen i wneud lle i’r newydd,” meddai.

“Bydd llawer yn ei gweld hi’n anodd gweld y simnai’n cael ei dymchwel, ond mae dyfodol newydd yn cael ei adeiladu, a dyna pam y dylai’r diwrnod fod yn achos dathlu wrth i ni fachu ar y cyfleoedd newydd hyn ar yr ynys rwy’n ei charu.”

Bydd y cyhoedd yn gallu gwylio’r tŵr yn cael ei ddymchwel, gyda Phorthladd Rhydd Ynys Môn yn awgrymu mai’r llwybr sy’n rhedeg ochr yn ochr â Pharc Cybi yw’r lle gorau a mwyaf diogel i’w wylio.

Bydd ffyrdd a mynedfeydd ar gau rhwng 1-4yp, wrth i’r gwaith dymchwel ddigwydd.