Mae chwyddiant wedi cyrraedd ei lefel isaf ers bron i ddwy flynedd a hanner, yn ôl yr ystadegau diweddaraf, ac mae’r newyddion wedi cael croeso gofalus gan yr economegydd Dr Edward Jones.

3.4% oedd cyfradd chwyddiant gwledydd Prydain yn y flwyddyn hyd at fis Chwefror eleni.

Er ei bod hi’n “dda” gweld bod y ffigwr wedi gostwng, mae chwyddiant dal yn broblemau mewn rhannau o’r economi, medd Dr Edward Jones, economegydd o Brifysgol Bangor.

Does dim arwyddion chwaith bod camau ar y gweill fyddai’n arwain at ostyngiad mewn costau byw, sydd dal i godi, er yn arafach, meddai’r darlithydd.

Ond mae prisiau’n cynyddu’n arafach nag y maen nhw wedi’i wneud ers mis Medi 2021, a’r cynnydd arafach mewn prisiau bwyd, diodydd meddal, bwytai a gwestai sydd wedi helpu i’w harafu, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Fodd bynnag, mae prisiau petrol a chostau rhent yn dal i gynyddu’n gynt, gyda rhent wedi cynyddu 9% dros y Deyrnas Unedig yn y flwyddyn hyd at fis Chwefror.

‘Ffigwr sy’n trio adlewyrchu bob dim’

“Mae hi’n dda gweld y ffigwr yma wedi dod lawr ond dau beth sy’n bwysig i ni gofio, headline figure ydy hwn, mae o’n ffigwr sy’n trio adlewyrchu bob dim sydd wedi digwydd ac rydyn ni’n gwybod bod chwyddiant mewn rhai rhannau o’r economi dal i fod yn broblem – sector gwasanaethau, mae chwyddiant dal i fod yn broblem yn y sector yna oherwydd mae cyflogau pobol dal i fynd fyny,” meddai Dr Edward Jones wrth golwg360.

“Yr ail beth i ni ei gofio ydy, tra bo chwyddiant wedi dod lawr, dydy hynna ddim yn golygu bod prisiau wedi dod lawr.

“Tra bod y llywodraeth yn dweud eu bod nhw wedi concro’r frwydr yn erbyn chwyddiant, rydyn ni dal i weld rhan helaeth o’r gymdeithas ar draws Cymru’n dioddef oherwydd y prisiau uchel rydyn ni’n eu hwynebu.

“Mae chwyddiant dal yn 3.4%, felly bydd prisiau dal i gario ymlaen i godi 3.4% i’r dyfodol.”

Dydy’r economegydd ddim yn rhagweld prisiau’n gostwng am “gryn amser eto”.

Er mwyn i brisiau ostwng, mae’n rhaid cael cystadleuaeth yn y farchnad, a bod busnesau’n gostwng prisiau er mwyn denu cwsmeriaid.

“Dw i ddim yn gweld llawer o hynna’n digwydd ar hyn o bryd, a bydd hi’n dipyn o amser eto tan wnawn ni weld hynna’n digwydd,” meddai.

“Mi fydd rhaid i ni weld yr economi yn gwella cyn i ni ddechrau gweld y gystadleuaeth yna rhwng busnesau a nhw’n torri prisiau er mwyn denu cwsmeriaid.”

Cyfraddau llog

Mae nifer o economegwyr yn rhagweld ei bod hi’n debyg i chwyddiant gyrraedd targed Banc Lloegr o 2% dros yr haf.

Er hynny, gan fod chwyddiant wedi bod mor uchel, mae ei effeithiau’n parhau, ac er bod y cap ar brisiau ynni yn gostwng, mae cyfraddau dŵr, ffonau symudol, band eang ac yswiriant car yn codi.

Dydy Dr Edward Jones ddim yn rhagweld y bydd Banc Lloegr yn gostwng eu cyfraddau llog tan tua chanol y flwyddyn, gan ddweud ei bod hi’n rhy gynnar i wneud hynny ar hyn o bryd.

“Mi fydd yna gryn edrych ar y ffigurau yma gan Fanc Lloegr, rydyn ni wedi dechrau gweld yn barod eu bod nhw’n dechrau trafod torri llogau.

“Er bod y ffigurau wedi edrych yn dda heddiw, mae hi dal yn mynd i gymryd peth amser i Fanc Lloegr fod â digon o hyder i dorri llogau.”

Cynllun San Steffan yn gweithio?

Yn ôl Jeremy Hunt, Canghellor San Steffan, mae’r gostyngiad yn dangos bod cynllun ei lywodraeth “yn gweithio”, a’i fod yn “agor y drws” i Fanc Lloegr ystyried gostwng cyfraddau llog.

“Does yna ddim syndod bod o wedi dweud hynna, ond Banc Lloegr, maen nhw wedi chwarae rhan bwysig yn y frwydr yma yn erbyn chwyddiant, maen nhw wedi codi llogau ac mae hynna wir wedi cael effaith ar chwyddiant,” meddai Dr Edward Jones wedyn.

“Wrth gwrs, mae polisïau’r llywodraeth wedi helpu i raddau hefyd, ond mae’n rhaid i ni gofio bod beth sydd wedi digwydd tu allan i Brydain wedi cael effaith ar chwyddiant hefyd.

“Os ydyn ni’n edrych ar beth achosodd y chwyddiant uchel yma yn y lle cyntaf, rhan bwysig o hynna oedd Rwsia yn dechrau rhyfel yn erbyn Wcráin, ac mae hynna tu allan i bwerau’r llywodraeth.

“Mae prisiau egni wedi dod lawr, eto does gan y llywodraeth ddim llawer o reolaeth dros hynna.

“Maen nhw wedi chwarae rhan, ond rhan [yn unig] – nid nhw’n benodol oedd y rheswm pam bod chwyddiant wedi dod lawr.”