Gallai cyllid newydd gan Lywodraeth Cymru adfer gwasanaeth bws sydd wedi dod i ben yn y gorllewin.
Wrth gyhoeddi eu cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae Llywodraeth Cymru wedi addo cyllid i ddatblygu cynigion trafnidiaeth gymunedol yn y gorllewin.
Bwriad y £185,000 gwreiddiol ydy cefnogi gwasanaeth i olrhain y Bwcabus.
Mae gwleidyddion Plaid Cymru, gan gynnwys Cefin Campbell, Aelod o’r Seneddol dros ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, wedi bod yn pwyso am adfer y gwasanaeth.
“Dw i’n croesawu’r datganiad hwn yn fawr iawn,” meddai’r gwleidydd wrth golwg360.
“Roedd colli’r gwasanaeth Bwcabus rai misoedd yn ôl yn ergyd fawr iawn i ardal de Ceredigion, gogledd Sir Gâr a gogledd Sir Benfro.
“Mae cymaint o bobol yn dibynnu ar fysus cyhoeddus, ac roedd y Bwcabus wedi bod yn rhan o fywydau cymaint o bobol.”
‘Tystiolaeth ingol’
Daeth bron i gant o bobol ynghyd fis Hydref i wrthwynebu’r cynlluniau i ddod â gwasanaeth y Bwcabus i ben, ac fe wnaeth deiseb yn gwrthwynebu ddenu dros 1,750 o lofnodion.
“Fe glywon ni dystiolaeth real iawn gan gymaint o wahanol bobol o bob oedran oedd yn tystio i bwysigrwydd y gwasanaeth yma i’w bywydau bob dydd nhw,” meddai Cefin Campbell wedyn.
“Roedd hwnna wedi cael effaith fawr arna i ac Elin [Jones].
“Roedd yna ferch ifanc yn dioddef o epilepsi yn gorfod mynd i glinig epilepsi bob wythnos ac yn dibynnu ar wasanaeth Bwcabus, roedd hi yn ei dagrau yn gofyn y cwestiwn yn gyhoeddus: ‘Sut yn y byd fydda hi’n gallu mynd i’r clinig gyda’r Bwcabus yn dod i ben?’
“Roedd yna fachgen ifanc yn dibynnu ar Bwcabus i fynd i’w waith bob doedd, roedd e’n poeni am ei ddyfodol.
“Roedd yna wraig yn gorfod mynd i’r ysbyty i gael triniaeth bron bob pythefnos yn cwestiynu beth fyddai’n digwydd iddi hi.
“Mae tacsis mor ddrud i fynd â nhw o’r ardal yma i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin neu Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, felly roedd gymaint o dystiolaeth ingol o sut oedd y gwasanaeth yma’n effeithio arnyn nhw.
“Mae Elin Jones a finnau wedi bod yn pwyso’n drwm iawn ar weinidogion Llywodraeth Cymru i adfer y gwasanaeth, a dw i mor, mor falch bod arian wedi cael ei neilltuo i barhau gyda rhyw fath o wasanaeth Bwcabus ar ei newydd wedd.”
‘Llenwi’r bwlch’
Ynghyd â’r £185,000 cychwynnol, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adolygu’r sefyllfa a darparu cefnogaeth ychwanegol addas wrth i gynigion gael eu datblygu yn 2024 a 2025.
Bydd Dolen Teifi, sydd â phrofiad o redeg gwasanaethau trafnidiaeth gwirfoddol yn barod, yn mynd ati i ddatblygu cynigion fydd, mae’n debyg, yn gwasanaethu ardaloedd Llandysul a Llanbedr Pont Steffan – oedd yn arfer cael eu gwasanaethu gan y Bwcabus.
“Mae gan Dolen Teifi brofiad o redeg gwasanaeth gwirfoddol sy’n gallu mynd â bysus i gasglu pobol o’u cartrefi a mynd â nhw wedyn naill ai i le bynnag maen nhw eisiau mynd neu at y brif ffordd lle mae bysus cyhoeddus yn mynd,” eglura Cefin Campbell.
“Mae hwnna nawr, gobeithio, yn mynd i gael cyfle i ehangu ac i lenwi’r bwlch sydd yn bodoli ar ôl i gynllun Bwcabus ddod i ben.”
Diwygiadau i wasanaethau bws
Fis Hydref 2023, pan oedd y Bwcabus yn dod i ben, dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru, ei fod yn “gweld gwerth gwasanaeth y Bwcabus”, ond ei fod yn cwestiynu faint oedd yn ei ddefnyddio.
“Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth i’r gwasanaeth Fflecsi yr ydym bellach yn ei dreialu mewn rhannau eraill o Gymru, felly does dim angen unrhyw argyhoeddiad o werth y model arnaf,” meddai.
Heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 5), mae’r Dirprwy Weinidog wedi amlinellu’r camau nesaf ar gyfer diwygio bysiau yng Nghymru hefyd.
Bydd y system bresennol, lle mae gweithredwyr bysiau yn penderfynu lle i redeg gwasanaethau yn seiliedig ar le gallan nhw wneud yr elw mwyaf, yn cael ei disodli gan system o gytundebau masnachfraint.
Yn ôl Lee Waters, y gobaith yw rhoi’r opsiwn i bobol Cymru ddewis ffordd fwy cynaliadwy o deithio drwy ddod â’r system “elw cyn pobol” bresennol i ben.