Mae Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru, wedi amlinellu’r camau nesaf ar gyfer diwygio bysiau yng Nghymru.

Mae ‌Ein Map Ffordd i Ddiwygio’r Bysiau yn adeiladu ar gynigion y papur gwyn ar fysiau i ad-drefnu’r ffordd mae’r system drafnidiaeth gyhoeddus yn gweithio yng Nghymru.

Bydd y system bresennol lle mae gweithredwyr bysiau yn penderfynu lle i redeg gwasanaethau yn seiliedig ar le gallan nhw wneud yr elw mwyaf yn cael ei disodli gan system o gytundebau masnachfraint.

Y Map Ffordd

Bydd Trafnidiaeth Cymru, cynghorau lleol a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i ddylunio rhwydweithiau bysiau sy’n cysylltu gwasanaethau allweddol ac yn cysylltu â bysiau eraill ag amserlenni trenau, gydag un tocyn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y cyfan.

Yna, bydd cwmnïau’n gallu gwneud cais i redeg y pecyn cyfan o lwybrau ar gyfer ardal, nid dim ond y rhai sydd fwyaf proffidiol.

Mae’r Map Ffordd i Ddiwygio’r Bysiau yn gosod targedau o flwyddyn i flwyddyn ynghylch sut mae Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd ati i gyflawni o ran masnachfreinio gwasanaethau bysiau yng Nghymru.

Mae hyn yn cynnwys sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cydweithio’n agos â phartneriaid a rhanddeiliaid, megis awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau, i gynllunio a darparu gwasanaethau sy’n “hawdd eu defnyddio, yn hawdd cael gafael arnyn nhw ac sydd â chysylltiadau da”.

Y bwriad yw cyflwyno’r dull newydd hwn ar sail ddaearyddol, a bydd yn cymryd sawl blwyddyn i’w gyflawni.

Dod â’r system ‘elw cyn pobol’ i ben

Yn ôl Lee Waters, y gobaith yw rhoi’r opsiwn i bobol Cymru ddewis ffordd fwy cynaliadwy o deithio drwy ddod â’r system “elw cyn pobol” bresennol i ben.

“Rydyn ni’n symud o system wedi’i phreifateiddio, sy’n rhoi elw cyn pobol, tuag at system fydd yn cynllunio bysus a threnau gyda’i gilydd o amgylch anghenion teithwyr,” meddai.

“Dyma’r set fwyaf pellgyrhaeddol o ddiwygiadau sy’n digwydd yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.

“Ar hyn o bryd, mae defnyddio’ch car yn hawdd, ond mae defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn gallu teimlo’n drafferthus.

“Ein nod yw creu un rhwydwaith cydgysylltiedig, gydag un amserlen integredig, gan ddefnyddio un tocyn.

“Fel hyn, byddwn yn ei gwneud yn haws deall sut i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a bydd yn gwneud siwrneiau yn ddi-dor.

‌”Mae hon yn garreg filltir bwysig ar ein taith i ddiwygio’r bysiau.

“Ers yn rhy hir o lawer, mae gwasanaethau bysiau Cymru wedi cael eu hesgeuluso gyda nifer y teithwyr yn gostwng yn raddol a rhai llwybrau bysiau wedi’u cwtogi.

‌”Nid yw’n mynd i fod yn hawdd i’w ddatrys ac mae’n mynd i gymryd amser, ond mae diwygio’r bysiau yn ganolog i greu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig a mynd i’r afael â thlodi trafnidiaeth ledled Cymru.

‌”Gan gysylltu llwybrau bysiau, trenau, cerdded a beicio byddwn yn ei gwneud yn haws i bobol wneud dewisiadau mwy cynaliadwy sy’n hanfodol os ydym am gyrraedd ein nodau cynaliadwyedd uchelgeisiol yng Nghymru.

“Mae’r camau rydyn ni wedi’u hamlinellu heddiw yn rhoi pobol cyn elw ac yn gwneud y peth iawn i’w wneud, y peth hawdd i’w wneud.”

Dim ffydd gan y Ceidwadwyr

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r cynlluniau gan ddweud bod rhaid i Lywodraeth Cymru cael gwared ar y cynllun 20m.y.a. os ydyn nhw “wir eisiau helpu’r sector”.

“Bydd cynlluniau Llafur yn gweld y trethdalwr yn cael y bai am wasanaethau ffaeledig ledled Cymru,” meddai Natasha Asghar, gweinidog trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig.

“Wrth ystyried methiannau Trafnidiaeth Cymru pan mae’n dod i’n trenau, ac anallu Llywodraeth Cymru pan mae’n dod i bopeth yn ymwneud â thrafnidiaeth, sut ar y ddaear ydyn ni fod i gael unrhyw fydd y bydd hwn yn fenter lwyddiannus?

“Ers cyflwyno polisi terfyn cyflymder 20m.y.a. Llafur, rydym wedi gweld llwybrau bysiau yn cael eu torri a phrydlondeb yn gwaethygu, felly os ydy’r gweinidogion wir eisiau helpu’r sector, mae’n rhaid iddyn nhw gael gwared â’r cynllun terfyn cyflymder £33.

“Nid yn unig hynny, ond mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ildio’i waharddiad ar adeiladu ffyrdd fel y gall Cymru gael rhwydwaith drafnidiaeth fodern i wasanaethau bysiau weithredu arno, a fydd yn ei dro yn denu teithwyr yn eu llu.”