Llawfeddyg 44 oed fydd yn ymladd sedd Gorllewin Abertawe yn enw Plaid Cymru yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Cafodd Dr Gwyn Williams, offthalmolegydd ymgynghorol yn Ysbyty Singleton sy’n byw yn ardal Brynmill, ei ddewis gan gangen leol y Blaid.

Cafodd ei fagu yn Rhiwfawr yng Nghwm Tawe, ac mae ei fam yn hanu o ardal Gendros y ddinas, a’i dad o bentref Blaendulais yng Nghwm Dulais.

Cafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Ystalyfera, cyn mynd yn ei flaen i astudio am radd mewn meddygaeth yng Ngholeg y Brenin yn Llundain, a chwblhau hyfforddiant llawfeddygol yn Wolverhampton.

Dychwelodd i Gymru yn 2007 er mwyn arbenigo mewn triniaethau ar gyfer y retina, wfeitis a chataractau. 

Yn 2015-16, daeth yn Gymrawd yn Ysbyty Llygaid Moorfields, canolfan rhagoriaeth fyd-eang ar gyfer gwasanaethau iechyd llygaid, ac mae’n gweithio fel uwch-ddarlithydd mygedol yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe.

Mae hefyd yn gwasanaethu fel ymgynghorydd addysgol dros Gymru i Gymdeithas Frenhinol yr Offthalmolegwyr.

Mae ganddo fe dri o blant, ac mae’n byw yn Abertawe gyda’i wraig, sydd hefyd yn ophthalmolegydd.

Ymhlith ei ddiddordebau mae cerdded yn ogystal â darllen ac ysgrifennu.

Yn ddiweddar, bu’n cerdded ar hyd Llwybr Arfordirol Cymru.

‘Galluog’

“Rydyn ni wrth ein boddau fod Plaid Cymru yn cyflwyno ymgeisydd mor alluog yn yr etholiad San Steffan nesaf,” meddai Sioned Williams, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Dde Orllewin Cymru.

“Gyda’r Torïaid ar chwâl a’r Blaid Lafur o dan Syr Keir Starmer yn anwybyddu anghenion Cymru, rydyn ni’n edrych ymlaen at ymladd ymgyrch gref wedi’i seilio ar ein rhaglen o ennill hunanlywodraeth gyflawn i Gymru.”