Mae angen i Drysorlys San Steffan gynyddu’r cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, a helpu’r rhai sy’n ei chael hi’n fwyaf anodd yn yr argyfwng costau byw, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Daw galwadau Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Cymru, cyn i Jeremy Hunt, Canghellor y Deyrnas Unedig, gyhoeddi Cyllideb y Gwanwyn fory (dydd Mercher, Mawrth 6).

Wrth siarad cyn cyhoeddi’r Gyllideb, dywed Rebecca Evans fod rhaid i’r Canghellor fuddsoddi mwy o gyllid tuag at gostau cyflogau a phensiynau yn y sector cyhoeddus.

Eisoes, mae Plaid Cymru wedi bod yn galw ar Jeremy Hunt i ailystyried y system dreth er mwyn buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus.

‘Pwysau anferth’

Mae’r penderfyniad i beidio â chynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn Natganiad yr Hydref wedi golygu bod ysbytai, ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill wedi wynebu “pwysau anferth, gan effeithio’n ddifrifol ar gynaliadwyedd y gwasanaethau hynny ar gyfer y dyfodol”, yn ôl Rebecca Evans.

“Rhaid gwrthdroi hyn,” meddai.

“Nid yw’r argyfwng costau byw wedi diflannu.

“Ar ôl degawd o ddiwygiadau lles, nid yw rhwyd ddiogelwch nawdd cymdeithasol bellach yn ddigonol.

“Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrando ar alwadau a wnaed ers tro gan Sefydliad Joseph Rowntree ac Ymddiriedolaeth Trussell a rhoi Gwarant Hanfodion ar waith ar frys.

“Byddai hyn yn golygu y byddai lwfans safonol Credyd Cynhwysol yn cael ei osod ar lefel sy’n sicrhau bod pobl yn gallu talu eu costau hanfodol.

“Er i’r Canghellor honni bod Cyllideb y llynedd yn ‘Gyllideb ar gyfer twf’, mae’r economi bellach yn llai nag a oedd yr adeg hon y llynedd.

“Mae angen ymdrechion brys i ddarparu’r amodau i roi hwb i gynhyrchiant a chreu amgylchedd ar gyfer buddsoddi i gefnogi safonau byw a gwasanaethau cyhoeddus.”

‘Hyblygrwydd cyllidebol’

Daeth pob plaid yn y Senedd ynghyd yr wythnos ddiwethaf i alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarparu hyblygrwydd cyllidebol.

“Y flwyddyn nesaf (2024-25) bydd ein terfynau benthyca a chronfeydd wrth gefn werth bron i chwarter (23%) yn llai mewn termau real na phan gawsant eu cyflwyno yn 2018-19,” meddai.

“Byddai’r hyblygrwydd hwn yn cefnogi mwy o fuddsoddiad, gan gynnwys drwy’r llif o brosiectau sydd gennym yn barod i’w rhoi ar waith drwy ein Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru.”

Cyllideb y Gwanwyn: Galw am gynyddu cyllid gwasanaethau cyhoeddus

Dywed Rebecca Evans fod yn rhaid i’r Canghellor Jeremy Hunt fuddsoddi mwy o gyllid tuag at gostau cyflogau a phensiynau yn y sector cyhoeddus