Mae elusen Gymreig sy’n helpu pobol hŷn i fyw’n annibynnol wedi ennill un o brif wobrau iechyd y Deyrnas Unedig.

Mae’r elusen Care & Repair Cymru wedi ennill gwobr genedlaethol am eu gwaith yn helpu pobol hŷn fregus a phobol ag anableddau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

Cafodd gwaith yr elusen i helpu pobol hŷn ddychwelyd i’w cartref o’r ysbyty argraff fawr ar y beirniaid.

Yn dilyn proses ddethol ac asesu, cafodd Care & Repair Cymru (CRC) eu dewis o blith mwy na 500 o elusennau ar draws y Deyrnas Unedig yn un o ddeg enillydd y Gwobrau GSK IMPACT 2024, sy’n cael eu cyflwyno mewn partneriaeth â Chronfa’r Brenin.

A hwythau’n mynd ers 27 mlynedd, mae’r gwobrau yn nodi rhagoriaeth yn y sector elusennol, ac yn cydnabod gwaith elusennau bach a chanolig sy’n gweithio i wella iechyd a llesiant pobol yn y Deyrnas Unedig.

Am ennill y wobr, bydd Care & Repair Cymru nawr yn derbyn £40,000 mewn cyllid heb gyfyngiadau, yn ogystal â chefnogaeth arbenigol a chymorth i ddatblygu arweinyddiaeth wedi’i ddarparu gan yr elusen iechyd a gofal, Cronfa’r Brenin.

Gwaith yr elusen

Yn ôl gwaith ymchwil, mae ble mae rhywun yn byw yn cael effaith ddwys ar eu hiechyd a’u lles.

Ers ei sefydlu yn 1991, mae Care & Repair Cymru yn cefnogi rhyddhau pobol o’r ysbyty ac atal gorfod mynd i’r ysbyty, drwy wella ac addasu cartrefi’r rhai sydd mewn perygl.

Mae eu gwasanaethau yn holistaidd, yn rhoi pwyslais ar yr unigolyn, ac wedi’u teilwra i anghenion yr unigolyn.

Yng Nghymru, mae 85% o bobol hŷn yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, ac wrth iddyn nhw heneiddio, mae’r rhan fwyaf yn gobeithio aros yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain.

Yng Nghymru mae’r stoc dai hynaf yn y Deyrnas Unedig, gydag ychydig dros chwarter yr holl dai wedi’u hadeiladu cyn 1919, a gall tai o ansawdd gwael neu sy’n anniogel arwain at fwy o risg o godymau, gyda 50% o bobol 80 oed a hŷn yn cael codwm o leiaf unwaith y flwyddyn.

Dangosodd yr arolwg cyflwr tai diwethaf yn 2018 fod bron i un ym mhob pump o gartrefi yn achosi risg i iechyd pobol, gydag oerfel, tamprwydd, a llwydni yn costio dros £95w miliwn y flwyddyn i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae traean o’r marwolaethau ychwanegol dros y gaeaf ymhlith pobol hŷn yn ganlyniad i salwch resbiradol o fyw mewn cartrefi oer.

Ysbyty i Gartref Iachach

Fe wnaeth y beirniaid ganmol Care & Repair Cymru am ddatblygu a rheoli’r rhaglen Ysbyty i Gartref Iachach, sy’n ceisio lleihau’r nifer sydd yn gorfod aros cyn mynd adref o’r ysbyty, a’r cyfraddau dychwelyd i’r ysbyty.

Mae asiantaethau Care & Repair yn gweithio gyda staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn ysbytai i ddynodi cleifion all gael eu hatal rhag gadael oherwydd eu bod yn byw mewn tai anaddas.

Bydd staff Care & Repair yn camu i mewn i wneud yr addasiadau angenrheidiol yn gyflym ac am ddim fel bod cleifion yn gallu mynd adref yn ddiogel ac yn brydlon.

Mae Care & Repair Cymru yn amcangyfrif bod y rhaglen hon wedi mwy na haneru cyfraddau dychwelyd i’r ysbyty ac arbed £13.6m i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol oherwydd oedi cyn rhyddhau yn ei thair blynedd gyntaf.

Nododd y beirniaid hefyd waith yr elusen yn cynrychioli anghenion perchenogion tai Cymru, ac amlygu effaith tai gwael ar iechyd pobol hŷn.

Trwy gasglu a chyflwyno data, mae CRC yn cefnogi Llywodraeth Cymru i wneud gwelliannau polisi ar sail tystiolaeth ac maen nhw ar hyn o bryd yn cefnogi symudiad tuag at hawl newydd i dai fforddiadwy a digonol.

Mae data gan yr elusen yn 2022/23 yn dangos bod yr 13 asiantaeth Gofal a Thrwsio, gyda chefnogaeth Care & Repair Cymru, wedi helpu 62,607 o bobol hŷn i aros yn annibynnol yn eu cartref.

Ymgymerodd yr asiantaethau â £18.3m o waith trwsio a gwella cartrefi, cafodd 20,438 o addasiadau eu cwblhau, a chafodd £9.5m o fudd-daliadau heb eu hawlio eu sicrhau i’w defnyddwyr gwasanaethau.