Guto Owen, Cyfarwyddwr Ynni Glân a chyd-gysylltydd HyCymru (Cymdeithas Fasnach Hydrogen Cymru), sy’n trafod ffermio, plannu coed a sut i wneud y gorau o dechnoleg wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Gyda phrotestiadau mawr yn cael eu cynnal ledled Cymru, mae yna ffordd o gefnogi ffermwyr, dur a mwy ar yr un pryd. A thrwy hynny, sicrhau ein bod ni’n gwneud newid cyfiawn, sy’n seiliedig ar wyddoniaeth a thechnoleg.
Dylai Llywodraeth Cymru fod yn rhoi eu holl ymdrechion tuag at ddatblygu tractorau a cherbydau hydrogen sydd ddim yn rhyddhau unrhyw allyriadau nac yn llygru’r aer. Byddai hynny, ynghyd â buddsoddi arian cyfalaf mewn cynhyrchu lleol a rhoi ynni dan berchnogaeth leol, yn cwtogi biliau yn y tymor hir. Fe fyddai’n cynnwys creu hydrogen yng Nghymru, gan Gymru ac i farchnadoedd Cymru. Byddai’r ynni glân a’r cemegau fyddai dros ben o’r broses yn helpu i dyfu bwyd yng Nghymru drwy gydol y flwyddyn. A chyflwyno’r rheolau iawn – heb y biwrocratiaeth – i’w gyflwyno.
Yr ateb felly fyddai cyflwyno un polisi economaidd / diwydiannol / amaethyddol / arloesol / ymchwil / sgiliau / iechyd / seilwaith.
Mae’r fferm hon ger Llanidloes, fel eraill ond dim digon ohonyn nhw, yn dangos bod hynny’n bosib. Mae ganddyn nhw dyrbin gwynt digon mawr a phaneli solar sy’n cynhyrchu trydan i’r fferm am beth o’r amser ac yn allforio’r gweddill. Yn ddelfrydol, y ffermwr fyddai’n berchen ar yr asedau dan berchnogaeth leol. Byddai angen buddsoddiad cyfalaf i leihau costau rhedeg ynni – costau sy’n mynd allan o reolaeth.
Y cam nesaf fyddai defnyddio’r ynni dros ben i wneud hydrogen, fyddai’r fferm (neu’r ffatri) yn gallu ei storio a’i droi’n ôl yn bŵer unrhyw bryd – pan nad yw’r gwynt yn chwythu na’r haul yn tywynnu.
Byddai’r un hydrogen yn cael ei ddefnyddio i gynhesu adeiladau neu fel tanwydd i dractorau hydrogen – neu ar gyfer yr Hilux 4×4 hydrogen gan Toyota, sy’n cael ei ddatblygu yng Nglannau Dyfrdwy. Gallai’r dur ar eu cyfer gael ei greu yn y de.
Mae hydrogen yn caniatáu i chi greu ynni yn lleol, ei reoli’n lleol a’i ddefnyddio’n lleol; felly yn gwneud y gorau o’r gwerth lleol all ddod o’n hadnoddau naturiol.
Mae tractorau yn un cyfle amlwg i Gymru ddatblygu marchnad ar gyfer y peiriannau glân all gael eu creu yng Nghymru. Fydden nhw ddim yn farchnadoedd mawr yma o reidrwydd, ond mae potensial sylweddol i’w hallforio.
Mae gwledydd diwydiannol ledled y byd yn prysuro i wneud hyn, felly rydyn ni’n wynebu dewis – naill ai bod yn gwsmeriaid goddefol wrth i gynnyrch gwledydd eraill gyrraedd y farchnad, neu weithredu a datblygu rhai ein hunain.
Ychydig filltiroedd ar hyd yr A470 o Lanidloes mae cerflun ffermwr ddaeth yn un o entrepreneuriaid a diwydianwyr enwocaf Cymru – David Davies Llandinam. Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fe wnaeth e adeiladu rheilffyrdd yng nghanolbarth Cymru; roedd yn berchen pyllau glo yn y Rhondda; torrodd fonopoli Bae Caerdydd drwy adeiladu Dociau’r Barri; a’i gwmni, yr Ocean Coal Company, oedd yn gwneud yr elw mwyaf gan lo y de.
Mae’n rhaid ei fod e wedi bod yng Nghyfnewidfa Lo Caerdydd, hwb rhyngwladol eithriadol i fasnachu ynni ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nawr, mae’n adeilad trist sy’n mynd â’i ben iddo – trosiad ohonom fel cenedl ddiwydiannol fechan ond pwerus ‘slawer dydd.
Fe wnaeth llwyddiant ariannol David Davies arwain at haelioni cryf, gan gynnwys cefnogaeth i sefydlu prifysgol gyntaf Cymru yn Aberystwyth; cefnogi capeli oedd yn asgwrn cefn i gymdeithas Gymraeg a’r iaith; a gadael casgliad celf o safon fyd-eang sydd i’w weld yn yr Amgueddfa Genedlaethol hyd heddiw. Daeth David Davies o hyd i amser i fod yn wleidydd, hyd yn oed.
Mae congl fechan o Bowys, felly, yn pwyntio’r ffordd ar gyfer technoleg lân, ynghyd ag arddangos yr egni sydd ei angen i wneud gwahaniaeth i Gymru gyfan: yr amgylchedd, yr economi a’r diwylliant. Ac mae gwledydd cyfoethog yn ariannu gwasanaethau cyhoeddus. Efallai bod rhywbeth ym mwynder Maldwyn sy’n symud mynyddoedd ac yn rheoli marchnadoedd.
Cymharer hyn â’r gobeithion i blannu coed yng Nghymru fel ateb i gynhesu byd-eang. Y teimlad gan ddogfennau’r Pwyllgor Newid Hinsawdd yw eu bod nhw’n gweld plannu coed fel y Gair.
Ond mae’n methu ar un peth (ymysg eraill): all y Pwyllgor ddim cyfrifo cost y copr y bydd yn rhaid i Gymru ei ddefnyddio i gyflawni’i chynllun sero net. Mae angen copr ar gyfer y datrysiadau trydan (batris ceir, pympiau gwres ac ati) sy’n cael eu hawgrymu’n gryf gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd.
Pris ac argaeledd copr fydd un o’r prif ffactorau wrth wneud newidiadau i ynni; nid i Gymru yn unig ond yn fyd-eang, ac mae’n rhaid cystadlu am gyflenwadau yn y farchnad. Gallai cost ac argaeledd copr chwalu’r cynlluniau sero net. Ydyn ni heb ddysgu dim o’r problemau diweddar gyda’r gadwyn gyflenwi?
Mae’n gambl fawr, ac felly yn risg enfawr i roi’n holl wyau mewn un fasged ddigon bregus. Mae angen cydbwysedd a chynllun newydd.
Wrth gwrs, mae plannu’r coed iawn yn y llefydd iawn, am y rhesymau iawn, yn bwysig. Ond dydy plannu coed yng Nghymru ddim am achub y blaned. Fe wnaeth Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) ddadansoddi effaith cynllun arfaethedig y Gweriniaethwyr i blannu triliwn o goed yn yr Unol Daleithiau. 1,000,000,000,000 o goed. Yn ôl yr MIT, gallai hynny ostwng tymheredd y byd gan 0.15 gradd selsiws erbyn 2100 os yw’r holl goed yn tyfu’n rhai aeddfed (wnân nhw ddim), a phe bai yna ddigon o dir (does yna ddim). Mae hwnnw’n bolisi tyllog.
Michael Mann yw un o wyddonwyr hinsawdd gorau’r byd, a dyma sydd ganddo i’w ddweud:
“Plannwch goed, wrth gwrs. Mae nifer o resymau da dros wneud. Ond peidiwch â hijacio’r drafodaeth am ddatrysiadau hinsawdd drwy actio fel y gall chwarae rôl sylfaenol wrth ostwng CO2. Heb leihau faint o danwydd ffosil sy’n cael ei losgi yn sylweddol, dydych chi’n gwneud dim newid gwirioneddol.”
Mae Llywodraeth Cymru, dan gyngor Pwyllgor Newid Hinsawdd allanol, eisiau plannu 86m o goed yng Nghymru erbyn 2030. Mae hynny’n ofyn mawr yn y lle cyntaf. Ac mae 86m yn llai na 0.01% o driliwn. Felly, dan ddadansoddiad MIT, gallai polisi plannu coed Llywodraeth Cymru leihau cynhesu byd-eang gan 0.000015 gradd selsiws (0.01% o 0.15%). Dibwys. Mewn 75 mlynedd. Gyda phob math o dyllau. A dyw e ddim yn ymateb i’r argyfwng hinsawdd.
Mae plannu coed yn beth da. Ond dyw e ddim yn ateb o ddifrif i broblem ddifrifol newid hinsawdd. Efallai y bydd yn gwrthbwyso peth carbon; mae’n gwrthbwyso euogrwydd. Beth yw’r atebion go iawn? Llosgi llai, gadael llonydd i goedwigoedd, stopio gwastraffu ynni a datblygu a defnyddio technoleg lân. Dyna ni.
Mae diwydiannau trwm a gwledig Cymru wedi arwain y byd yn y gorffennol ac, ar y cyd â datblygiadau yn yr economi ddigidol a Deallusrwydd Artiffisial, gall y wlad symud tuag at y mesurau sydd eu hangen i gyfyngu newid hinsawdd, a thyfu economi lân. Yn rhan o’r cynllun, tyfu bwyd drwy’r flwyddyn gan ddefnyddio technoleg newydd lân i helpu ffermio traddodiadol. Drwy hynny, cryfhau gwytnwch ein systemau economaidd, rhywbeth y bydden ni ei angen i leihau effaith newid hinsawdd. Ein buddsoddiad ni yn ein heconomi ni.
Dylen ni osgoi polisïau sy’n cael ychydig iawn o effaith yn fyd-eang, ond sydd â mwy o effeithiau lleol. Dylen ni fod yn creu a gweithredu cynlluniau sy’n addas i’n sefyllfa ni yn hytrach na defnyddio datrysiadau fydd yn cael cyn lleied o effaith ar y blaned ac ar lesiant ein cymunedau.
A dylen ni gredu yn ein hunain er mwyn llwyddo.