Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i gymryd camau ar unwaith i fynd i’r afael â’r argyfwng tai yn yr ardal.

Maen nhw’n dweud bod anghyfartaledd yn y farchnad dai agored, ac fe fydd Pwyllgor Cynllunio’r Awdurdod yn trafod cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer Eryri gyfan pan fyddan nhw’n cwrdd nos Fercher (Mawrth 6).

Byddai cyflwyno’r polisi yn ei gwneud hi’n ofynnol i ennill caniatâd cynllunio cyn newid defnydd eiddo o brif gartref i ail gartref neu lety gosod tymor byr.

Ar hyn o bryd, mae un ym mhob chwe thŷ yn ardal y Parc Cenedlaethol yn ail gartref neu’n llety gosod tymor byr.

Diogelu cymunedau Cymraeg

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, byddai hyn yn gam hollbwysig i leddfu effaith yr argyfwng tai a diogelu cymunedau Cymraeg yn yr ardal.

“Mae’r nifer sylweddol o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn Eryri – tua 17% o’r stoc tai cyfan – yn symptom o anghyfartaledd marchnad dai agored sy’n tanseilio cynaliadwyedd cymunedau ac yn bygwth dyfodol y Gymraeg fel iaith fyw,” meddai Gwyn Siôn Ifan, cadeirydd Rhanbarth Gwynedd a Môn Cymdeithas yr Iaith.

“Yn ôl yr adroddiad sydd wedi cael ei baratoi ar gyfer y Pwyllgor Cynllunio, mae 65% o holl boblogaeth Eryri wedi’u prisio allan o farchnad dai eu hunain.

“Rydym yn hyderus y bydd aelodau’r Pwyllgor Cynllunio yn cymeradwyo’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 fel cam pwysig i fynd i’r afael â’r argyfwng tai yn Eryri, a diogelu cymunedau Cymraeg cynhenid yr ardal.

“Does dim dyfodol i’r cymunedau hyn heb weithredu.”

“Er bod awdurdodau lleol yn dechrau cymryd y camau breision sydd o fewn eu gallu i ymdrin ag agweddau gwaethaf y farchnad dai agored, gyda Llywodraeth Cymru mae’r cyfrifoldeb sylfaenol.

“Yn y pen draw, mae’n rhaid trawsnewid y system dai wrth ei wraidd drwy gyflwyno Deddf Eiddo a fyddai’n trin tai fel asedau cymdeithasol hanfodol ac yn rhoi anghenion tai cymunedau cyn elw.

“Gwahoddwn aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a phawb i gefnogi rali ‘Deddf Eiddo – Dim Llai’ ym Mlaenau Ffestiniog ar Fai 4 i ategu’r alwad hon i’r Llywodraeth.”