Mae’r person hynaf yng Nghymru newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 112 oed.

Mary Keir, sy’n byw yng Nghartref Preswyl Awel Tywi yn Llandeilo ers deuddeng mlynedd, yw person hynaf Cymru, a bu’n dathlu drwy gael cinio rhost a threiffl sieri ac yna bwffe gyda’r nos.

Bu disgyblion o Ysgol Ffairfach yn ymweld â’r cartref i ddathlu gyda hi, yn ogystal â Chôr Meibion Dinefwr, fu’n ei diddanu hi a’r holl drigolion yn Awel Tywi gydag amrywiaeth o ganeuon.

Mae hi’n dal i gyfrannu’n llawn at y gweithgareddau, yr adloniant a’r cyfarfodydd yn Awel Tywi, yn ogystal â helpu trigolion eraill.

Mae hi hefyd yn dal i fod yn hoff iawn o gerddoriaeth, yn enwedig y piano, sydd wedi bod o ddiddordeb iddi drwy gydol ei hoes.

Roedd hi’n arfer gweithio fel prif nyrs ward a nyrs ardal, ac roedd hi’n byw’n annibynnol yn Llansteffan nes ychydig cyn ei phen-blwydd yn 100 oed, cyn symud i’r cartref.

‘Yn gadarn ei hewyllys a’i phenderfyniad o hyd’

Bu Robert Keir, ei mab, a Sian Keir, ei merch-yng-nghyfraith, yn dathlu ei phen-blwydd gyda hi.

“Mae Mary, ein mam a’n mam-yng-nghyfraith, yn gadarn ei hewyllys a’i phenderfyniad o hyd,” medden nhw.

“Mae hi wedi cael gofal gwych yn Awel Tywi ac rydyn ni wir yn gwerthfawrogi popeth mae’r staff anhygoel yn ei wneud drosti bob dydd.”

Cyngor Sir Gaerfyrddin sydd yng ngofal Cartref Preswyl Awel Tywi.

“Dymuniadau gorau i Mary ar ei phen-blwydd yn 112 oed,” meddai’r Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

“Hoffwn ddiolch hefyd i’n tîm gwych o ofalwyr yn Awel Tywi am ddarparu gofal rhagorol i Mary, yn ogystal â holl drigolion y cartref.”