Bydd bar Tiny Rebel ar Stryd Fawr Casnewydd yn cau ei ddrysau am y tro olaf ar ddiwedd y mis yma, am resymau economaidd.

Mewn datganiad, mae’r cwmni’n dweud eu bod nhw wedi cynnal arolwg o’r busnes “er mwyn sicrhau bod Tiny Rebel yn ariannol addas ar gyfer y dyfodol”.

Maen nhw’n dweud bod llai o bobol yn ymweld â dinas Casnewydd o ganlyniad i’r pandemig Covid-19 erbyn hyn, ac mai’r diwydiant lletygarwch sy’n dioddef fwyaf gyda chyn lleied o gefnogaeth ar gael iddyn nhw gan y Llywodraeth wrth i gostau gynyddu.

Yn eu datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, maen nhw’n dweud iddyn nhw “weithio’n ddiflino” dros gyfnod o ddeunaw mis ond eu bod nhw wedi cael eu gorfodi i “wneud penderfyniadau anodd er mwyn gwarchod dyfodol y busnes”.

“Rydyn ni’n gwneud popeth allwn ni i gefnogi staff yn eu camau nesaf, boed gyda ni neu gyfle yn rhywle arall,” medd y datganiad.

Bydd y bar yn cau am y tro olaf ar Fawrth 31.

“Agorodd ein Bar Stryd Fawr fel pop-yp yn 2015, pan wnaethon ni gymryd drosodd mewn siop elusen a chreu bar cwrw a pizza i geisio cyflwyno dewis, creadigrwydd, ac yn bwysicaf oll rywfaint o hwyl i ganol y ddinas ar adeg pan oedd ei angen fwyaf arni,” medd y cwmni.

Mae’r cwmni hefyd yn rhedeg bar Tiny Rebel yng Nghaerdydd a’r Brewery Taproom.

‘Diwrnod trist i Gasnewydd’

Mae trigolion y ddinas ac ymwelwyr rheolaidd wedi bod yn rhannu eu siom ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Wedi fy llorio’n llwyr o weld Tiny Rebel Casnewydd yn mynd,” meddai un ar Facebook.

“Byddai fy mywyd yn hollol wahanol oni bai am y ffrindiau rwyf wedi’u gwneud yno – staff, yr ymwelwyr rheolaidd a dieithriaid!”

“Tiny Rebel yw un o atyniadau mwyaf canol dinas Casnewydd, bydd o ond yn gwaethygu hebddo fo,” meddai un arall.

“Diwrnod trist i Gasnewydd,” meddai un.

“Pob lwc i’r holl staff yn y dyfodol, maen nhw’n wych.”

“Arwydd trist o’r cyfeiriad mae canol dinas Casnewydd yn mynd,” ychwanegodd un arall.