Mae’n “annerbyniol” fod carthion yn cael eu harllwys i afonydd a thraethau, yn ôl ymgyrchwyr yn y gogledd orllewin.
Bydd Gweithredu Hinsawdd Gogledd Orllewin Cymru yn cynnal cyfarfod cyhoeddus ar-lein nos Iau (Mawrth 7) i drafod y broblem.
Fe fydd siaradwyr o Dŵr Cymru, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru a Surfers Against Sewage yn ymuno â nhw.
Dydy 66% o afonydd Cymru ddim yn cwrdd â thargedau safon ecolegol, a’r haf diwethaf cafodd dros gant o draethau ledled y Deyrnas Unedig eu cau gan fod carthion wedi cael eu pwmpio yno.
“Fel grŵp, rydyn ni’n poeni am lefel y llygredd ar ein traethau ac yn ein moroedd, mae pobol yn dod i gysylltiad â nhw pan maen nhw’n mynd i ddefnyddio’r gofodau hynny,” meddai Gemma Baron, ecolegydd o Benmachno yn Sir Conwy ac un o drefnwyr y cyfarfod, wrth golwg360.
“Mae’n bosib ei fod o’n cael effaith ar fioamrywiaeth ac ar gynefinoedd hefyd.
“Rydyn ni’n meddwl bod hyn yn annerbyniol.
“Mae ein hadnoddau naturiol mewn cyflwr mor wael, ac yn amlwg mae nifer o bethau’n cyfrannu at hynny – nid yn unig llygredd carthion, ond mae o yn un ffactor.
“Felly rydyn ni’n trefnu’r cyfarfod hwn gyda rhywun o Dŵr Cymru, Surfers Against Sewage a’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt i siarad am y prif broblemau o ran carthion yn dod o all-lifoedd yn benodol, a chael ychydig o drafodaeth am yr hyn sy’n cael ei wneud am y broblem a beth arall ellir ei wneud.”
‘Eisiau gwybod mwy’
Mae cryn dipyn o’r wlad yn defnyddio ‘carthffosydd cyfunol’, sy’n golygu bod dŵr gwastraff o dai a busnesau a dŵr sy’n rhedeg oddi ar wyneb y tir yn mynd i un system garthffosiaeth.
Mae’r dŵr wedyn yn cael ei gludo i safle trin dŵr, lle mae’n cael ei lanhau a’i ddychwelyd i’r amgylchedd.
Ond pan fydd hi’n bwrw’n drwm, mae’r gorlif yn llifo, heb ei drin, i afonydd a thraethau ac ati.
“Ar hyn o bryd, rydyn ni eisiau gwybod mwy am broblem,” meddai Gemma Baron wedyn, wrth egluro pwrpas y cyfarfod.
“Y prif beth ydy na ddylai carthion heb eu trin gael eu pwmpio ar draethau ac i afonydd, felly dyna fysa ein cais.
“Dw i’n amau bod yna nifer o resymau pam na ydy hynny wedi digwydd hyd yn hyn, felly dydy o ddim am ddigwydd dros nos.
“Ond dyna sydd angen i’r nod fod yn y pendraw.
“Mae yna broblemau eraill, llygredd yn dod o ffyrdd a ffermydd ac ati, ond ar gyfer y cyfarfod hwn yr all-lifoedd fyddan ni’n drafod a sut all Dŵr Cymru fynd i’r afael â hynny yn y ffordd orau.”
‘Gwybodaeth ar goll’
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi bod yn edrych ar y mater yn ddiweddar, ac maen nhw’n galw am wahardd pobol rhag fflysio cadachau gwlyb i lawr y toiled, er mwyn atal carthion rhag llifo i’n dyfroedd.
Roedden nhw hefyd yn awgrymu defnyddio llai o ddŵr, gwella systemau monitro a buddsoddi yn y system.
“Er bod hwn yn fater pwysig, mae yna wybodaeth ar goll ynglŷn â faint o ddŵr gwastraff sy’n llifo i’r amgylchedd, beth sydd yn y dŵr gwastraff hwnnw, a’i effaith ar iechyd pobol, ecosystemau a’r economi,” meddai Dr William Perry, ecolegydd o Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd.
Daeth yr ymchwilwyr i’r casgliad fod angen astudiaethau ehangach ar effaith carthffosydd cyfunol sy’n gorlifo.
“Aethon ni ati i adolygu’r risg go iawn y mae pobol ac ecosystemau yn ei hwynebu yn sgil Carthffosydd Cyfunol sy’n gorlifo,” meddai Dr William Perry.
“Ond daethon ni i’r casgliad bod ein dealltwriaeth yn gyfyngedig i’r fath raddau, oherwydd diffyg data a monitro, nad yw’n ymarferol ar hyn o bryd asesu, mewn ffordd briodol, y risg mae pobol ac ecosystemau yn ei hwynebu yn sgil carthffosydd cyfunol sy’n gorlifo.
“Mae’n hollbwysig bod rhagor o fonitro’n digwydd.”
Mae croeso i unrhyw un ymuno â’r cyfarfod cyhoeddus ar Zoom nos Iau drwy gofrestru yma.