Bydd galwad o blaid codi baner Ynysoedd y Falkland yn Neuadd y Sir yn Hwlffordd, Sir Benfro yn cael ei chlywed yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Murphy y cwestiwn, ‘A fyddai Arweinydd Cyngor Sir Penfro [y Cynghorydd David Simpson] yn cytuno i godi baner Ynysoedd y Malfinas ar Fehefin 14, a’i chwifio o flaen Neuadd y Sir?’

Diwrnod Rhyddid

“Caiff Mehefin 14 ei adnabod fel diwrnod cenedlaethol yr ynysoedd, er mwyn dathlu dychwelyd at ddemocratiaeth ar ôl meddiannaeth filwrol anghyfreithlon gan yr Ariannin yn 1982,” meddai’r Cynghorydd Huw Murphy.

“Pwrpas codi baner y Malfinas yn Neuadd y Sir ar Fehefin 14 yw ein hatgoffa o’r aberth eithaf a wnaed gan 255 o filwyr yn gwasanaethu ein gwlad yn ystod rhyfel y Malfinas”.

“Yn ingol iawn, roedd 22 o’r rheiny gafodd eu colli yn y frwydr yn gwasanaethu ar HMS Ardent, llong ddistryw o’r llynges Frenhinol gafodd ei suddo ar Fai 22, 1982.

“Roedd gan y llynges gysylltiad agos â Sir Benfro oherwydd ei chysylltiadau ag Aberdaugleddau.

Cydnabyddiaeth wych

“Bydd codi’r faner yn bwysig iawn i dref Aberdaugleddau ac i aelodau cymdeithas HMS Ardent, gan fod eu gwasanaeth flynyddoedd yn ôl yn dal i gael ei gofio,” meddai Huw Murphy.

Mae baner Ynysoedd y Falkland yn cynnwys baner yr Undeb yn y gornel chwith uchaf, ynghyd ag arfbais sy’n cynnwys hwrdd a llong, The Desire.

Caiff cwestiwn y Cynghorydd Murphy ei ateb mewn cyfarfod ar Fawrth 7.