Mae cwmni coffi sy’n rhoi’r Gymraeg ar y fwydlen wedi cael canmoliaeth gan Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, wrth iddi fynegi ei balchder fod busnesau lleol yn annog a mentora eu staff di-Gymraeg i ddysgu’r iaith.

Daw hyn yn dilyn ei hymweliad â Poblado, rhostwyr coffi artisan yn Nyffryn Nantlle.

Yn enedigol o Eltham yn Llundain, dysgodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan y Gymraeg yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn mynd yn ei blaen i fod yn Gyfarwyddwr Dwyieithrwydd Grŵp Llandrillo Menai a Phennaeth Sgiliaith coleg Meirion Dwyfor, Pwllheli.

Gwerth masnachol y Gymraeg

Yn ystod ei hymweliad â Poblado yn Nantlle, canmolodd Liz Saville Roberts y busnes am gydnabod gwerth masnachol y Gymraeg, a’u hymagwedd ragweithiol tuag at annog a mentora eu staff di-Gymraeg i ddysgu a defnyddio’r iaith mewn amgylchedd busnes llwyddiannus.

“Mae Poblado yn fusnes lleol hynod lwyddiannus sydd wedi tyfu i fod yn rhostiwr coffi artisan mwyaf blaenllaw Cymru,” meddai.

“Fel un sy’n prynu coffi ganddyn nhw, gallaf dystio am ansawdd rhagorol eu coffi a’r pwyslais cryf a roddir ar gyrchu’r coffi gorau trwy ddulliau cynaliadwy a moesegol.

“Mae’r rhain yn werthoedd sy’n hanfodol i lwyddiant y busnes ac sy’n amlwg yn y berthynas gref rhwng y busnes, eu cyflenwyr byd-eang, a’u cwsmeriaid.

“Roeddwn wrth fy modd yn ymweld â Steff a’i dîm yn eu safle yn Nantlle, sydd wedi dod yn gyrchfan groesawgar a phoblogaidd i’r rhai sy’n frŵd dros goffi.

“Er bod eu ffa yn dod o bob rhan o’r byd (Wganda, Ethiopia, Rwanda i Sumatra a Cholombia), mae’r coffi’n cael ei rostio a’i gymysgu ar y safle yng nghanol Eryri.

“Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn coffi a sut mae’n cael ei wneud i ymweld â nhw a dysgu mwy am y broses.

“Un o’r pethau oedd yn fy niddori fwyaf am Poblado oedd eu hagwedd foesegol at fasnach.

“Mae Steff wedi treulio amser yn byw ac yn teithio yn rhai o’r gwledydd tlotaf sy’n cynhyrchu coffi ac wedi cymryd yr amser i adeiladu partneriaethau cynaliadwy gyda chynhyrchwyr a chyflenwyr sydd o fudd i’r ddwy ochr ac sy’n ceisio rhoi elw teilwng i ffermwyr coffi.

“Cefais fy nghalonogi hefyd gan bwyslais y busnes wrth hybu’r Gymraeg yn y gweithle.

“Fel rhywun ddysgodd Gymraeg tra yn y brifysgol, rwy’n gwybod pa mor heriol y gall fod a phwysigrwydd cael anogaeth a sicrwydd.

“Roeddwn yn falch iawn o weld y busnes yn cefnogi eu staff di-Gymraeg drwy eu cofrestru ar gyrsiau Cymraeg, gan amlygu ymhellach werth busnes aruthrol yr iaith o fewn ein cymuned.”

‘Pwyslais mawr ar hybu’r Gymraeg’

Mae Steff Huws, perchennog Poblodo, wedi croesawu ymweliad Liz Saville Roberts.

“Roedd yn wych cael Liz yn ymweld â ni yn Poblado yn Nantlle, a hoffwn ddiolch iddi am ein cefnogi fel busnes lleol ac am ei geiriau o anogaeth i’n staff,” meddai.

“Fel busnes sy’n masnachu yng nghanol Eryri, rydyn ni’n rhoi pwyslais mawr ar hybu’r Gymraeg ac rydyn ni’n gwneud pob ymdrech i annog ein staff i ddysgu a defnyddio’r iaith mewn cyd-destun busnes a chymdeithasol.

“Mae ein holl staff di-Gymraeg wedi cofrestru ar gyrsiau Cymraeg ac rydym yn ystyried hyn yn fuddsoddiad hirdymor ar gyfer eu datblygiad personol ac ar gyfer y busnes ei hun.

“Mae gallu gwneud busnes a sgwrsio â chwsmeriaid yn eich iaith eich hun yn rhywbeth rydyn ni’n rhoi gwerth gwirioneddol arno ac rydw i wedi fy nghalonogi bod ein staff yn gwneud cynnydd gwych.”

Taith aelod o staff i ddysgu’r Gymraeg

Mae Larry Benoy yn gweithio i Poblado, ac yn dysgu Cymraeg ar hyn o bryd.

“Roedd yn bleser cael Liz Saville Roberts yn ymweld â ni yn y gwaith, ac roeddwn yn falch iawn ei bod yn cymryd cymaint o ddiddordeb yn yr hyn yr ydym yn ei wneud yma yn ogystal a’m taith i wrth ddysgu Cymraeg,” meddai.

“Cymerodd Liz yr amser i wrando a sgwrsio gyda ni, ac fel rhywun ddysgodd y Gymraeg ei hun, cynigiodd gyngor ymarferol ac anogaeth ar sut i ddysgu’r iaith.”