Mae Mark Drakeford wedi gwrthod ateb unrhyw gwestiynau yn ymwneud â’i ddefnydd o WhatsApp yn ystod y pandemig yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 5).
Yr wythnos ddiwethaf, clywodd ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig fod Prif Weinidog Cymru wedi defnyddio’r ap i drafod cyhoeddiadau polisi ac i ofyn am eglurhad ar y rheolau.
Daw hyn wedi iddo ddweud mai “ychydig iawn” mae’n defnyddio’r ap.
Clywon nhw hefyd fod Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig y Prif Weinidog, wedi troi’r gallu i ddileu negeseuon yn awtomatig ymlaen ym mis Tachwedd 2021.
Daeth i’r amlwg hefyd fod negeseuon WhatsApp Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd ar y pryd, wedi cael eu dileu’n ddiofyn yn ystod y pandemig Covid-19.
Byddan nhw’n clywed tystiolaeth Mark Drakeford yr wythnos nesaf.
‘Diwrnod trist i ddemocratiaeth’
Pan ofynnodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, i’r Prif Weinidog a yw’n defnyddio’r ap i drafod polisïau yn y Senedd heddiw, fe wnaeth Mark Drakeford wrthod ateb.
“Rwy’n dyst yn yr ymchwiliad Covid-19,” meddai.
“Byddaf yn ateb eu cwestiynau, pa bynnag bwyntiau maen nhw’n eu rhoi i mi.
“Ni fyddaf yn cynnig rhagolwg o’r hyn y byddaf yn ei ddweud wrth yr ymchwiliad.
“Byddaf yn rhoi’r parch rwy’n credu mae’r ymchwiliad yn ei haeddu, a byddaf yn rhoi fy atebion iddyn nhw fel tyst.”
Ceisio atebion
“Mae’r Prif Weinidog yn camu o’r neilltu ymhen pythefnos,” meddai Andrew RT Davies wrth ymateb.
“Rwy’ wedi ceisio cael atebion ar wybodaeth sydd yn gyhoeddus.
“Ni allaf gael hynny yma yn Senedd Cymru.
“Mae hynny’n dditiad damniol o ddemocratiaeth Cymru, byddwn i’n dweud.”
Un arall sydd wedi beirniadu Mark Drakeford am beidio ateb ei gwestiynau yw Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru.
Gofynnodd a fyddai’r Prif Weinidog yn cyfaddef fod “dileu negeseuon, waeth pa mor anffurfiol, nid yn unig yn anghywir ond hefyd yn torri rheolau ei Lywodraeth ei hun”.
Gwrthododd Mark Drakeford ateb, gan ddweud y bydd yn ateb cwestiynau’r ymchwiliad.
“Cyfrifoldeb arweinydd yr wrthblaid yw dwyn y llywodraeth i gyfrif,” meddai Rhun ap Iorwerth ar X (Twitter gynt).
“Mae’r Prif Weinidog yn gwrthod ateb cwestiynau yn y Senedd mewn perthynas â thystiolaeth sydd eisoes wedi’i chlywed yn ymchwiliad Covid y Deyrnas Unedig yn ddiwrnod trist i ddemocratiaeth.
“Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn datblygu enw da cynyddol am redeg i ffwrdd o graffu.
“Allwch chi ddim ennill pŵer heb dderbyn y cyfrifoldeb sy’n gysylltiedig ag o.”