Gallai’r premiwm treth cyngor ar dai gwag yng Nghaerdydd godi gymaint â 300%.

Y llynedd, fe wnaeth Cyngor Caerdydd gyflwyno premiwm treth gyngor o 100% ar dai sy’n wag a heb eu dodrefnu ers dros flwyddyn – sy’n gynnydd o 50% ar y premiwm gafodd ei gyflwyno yn 2019.

Byddai’r cynnig newydd gan y Cyngor yn golygu bod y premiwm yn cynyddu yr hiraf mae’r tŷ’n cael ei adael yn wag.

Mae tai sydd wedi bod yn wag ers dwy flynedd yn wynebu premiwm o 200%, dan y cynnig, tra byddai tai sydd wedi bod yn wag ers tair blynedd neu fwy yn wynebu premiwm o 300%.

‘Dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd’

Dywed y Cynghorydd Chris Weaver, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros gyllid, moderneiddio a pherfformio, mai’r nod ydy dod â thai gwag yn y brifddinas yn ôl i ddefnydd.

“Rydyn ni’n wynebu argyfwng tai a rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i helpu i roi cartrefi i bobol sydd angen llety,” meddai.

“Mae dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd yn un ffordd o helpu.

“Yr hiraf mae’r eiddo hyn yn aros yn wag, y mwyaf o fwrn ydyn nhw ar ein cymunedau ac maen nhw’n dod yn ganolbwynt i bobol adael llanast, gwneud niwsans, fandaliaeth a throseddu ac os ydyn nhw’n cael eu bordio fyny, maen nhw’n gallu gwneud yr ardal llai apelgar i bawb.”

Yn ôl y cyngor, roedd 1,563 o dai wedi bod yn wag ers mwy na chwe mis yn y ddinas ar unrhyw un adeg fis Rhagfyr y llynedd, gyda 200 ohonyn nhw’n cael eu monitro gan swyddogion y Cyngor.

Mae perchnogion tai yn cael eu hannog i ymuno â’r rhaglen fenthyciadau Troi Tai’n Gartrefi, cysylltu â datblygwyr tair preifat a rhoi tystiolaeth bod y tŷ’n wag er mwyn gostwng y treth ar werth (TAW) ar y costau adnewyddu.

Ar ôl cyflwyno’r premiwm o 100% y llynedd, fe wnaeth 74 yn llai o dai dalu’r premiwm ar gyfer tai gwag – 808, i lawr o 882.

“Mae’n ddechrau, ond mae’n awgrymu nad yw lefel bresennol y premiwm yn ddigon i berswadio perchnogion i ddod â thai gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd,” meddai Chris Weaver.

Bydd pleidlais ar y cynnig yn cael ei chynnal yn Neuadd y Sir ddydd Iau (Mawrth 7).