Dydy 31% o aelwydydd yng Nghymru ddim yn cynhesu eu tai, a 24% yn bwyta llai neu’n hepgor prydau er mwyn arbed arian, yn ôl ymchwil newydd.

Mae’r ymchwil gan Sefydliad Bevan yn dangos bod 13% o aelwydydd y wlad yn cael trafferth talu biliau a fforddio nwyddau hanfodol hefyd.

Mae 28% yn benthyg arian, a 13% ar ei hôl hi â biliau, medd yr ystadegau.

Yn ôl y data, mae teuluoedd â phlant dan 18 oed yn ei chael hi’n anoddach fyth ymdopi â’r argyfwng costau byw.

Dydy 40% o rieni â phlant dan 18 oed ddim yn cynhesu eu tai, a dywed 22% eu bod nhw wedi methu cynnal y parti pen-blwydd roedd eu plant ei eisiau, yn sgil eu sefyllfa ariannol.

Mae 21% o blant yn colli allan ar wersi chwaraeon, a 18% yn colli allan ar wersi cerddoriaeth hefyd.

‘Effaith ddwys’

“Ers dechrau’r pandemig, mae pobol yn mynd heb fwyd neu’n byw mewn tai oer wedi dod yn rhywbeth arferol yn nifer o gymunedau Cymru,” meddai Dr Steffan Evans ar ran Sefydliad Bevan.

“Mae hyn wedi cael effaith ddwys ar bobol.

“Er enghraifft, mae ein data newydd yn dangos bod 44% o bobol yn dweud bod eu sefyllfa ariannol yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl, a 30% yn dweud yr un fath am eu hiechyd corfforol.”

Wrth gyfeirio at y diffyg cyfleoedd i blant yn sgil gwasgu ariannol, dywed Dr Steffan Evans fod y niferoedd sy’n dweud bod eu plant yn methu allan yn “peri pryder”.

“Mae’r ffaith fod cymaint o blant yn methu allan ar y gweithgareddau hyn yn debygol o gael effaith sylweddol ar iechyd a chyfoeth pobol Cymru am flynyddoedd i ddod.”

Anobaith

Dangosa’r ymchwil nad ydy pobol yn obeithiol o gwbl at y dyfodol.

Mae pobol fwy na dwywaith yn fwy tebygol o feddwl y bydd eu safon byw yn gwaethygu yn hytrach na gwella dros y ddeuddeng mis nesaf.

Dywedodd hanner y rhai gafodd eu holi eu bod nhw’n credu y bydd safonau byw yn eu cymuned yn gwaethygu dros y flwyddyn nesaf, tra bod 57% yn meddwl y bydd safonau byw yn gostwng dros y wlad.

“Fedrwn ni ddim gafael i’r lefelau o dlodi a chaledi ariannol sy’n cael eu hamlinellu yn ein data diweddaraf ddod yn normal newydd yng Nghymru,” meddai Dr Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan.

“Mae’n hanfodol bod tlodi’n parhau’n brif flaenoriaeth ar agenda pawb, ac ein bod ni’n gweithredu nawr i ddadwneud effeithiau’r pandemig a’r argyfwng costau byw ar gymunedau Cymru.”