Bydd ysgol gynradd yn dathlu carreg filltir bwysig eleni gydag amgylchedd dysgu mwy modern ac ecogyfeillgar.
Wrth iddi agosáu at ei phen-blwydd yn 150 oed, mae gwaith wedi’i gwblhau yn Ysgol Pentrecelyn yn Rhuthun yn Sir Ddinbych i wella effeithlonrwydd ynni ar y safle.
Trwy gydweithio â thîm Cynnal a Chadw Adeiladau a thîm Ynni Cyngor Sir Ddinbych, mae’r ysgol wedi gwella effeithlonrwydd ynni, lleihau allyriadau carbon a sicrhau arbedion hirdymor o ran costau ar y safle.
Lleihau ôl-troed carbon
Yn ddiweddar, bu i’r tîm Ynni gyrraedd carreg filltir o dros fegawat o gapasiti i’r ynni adnewyddadwy gafodd ei osod (1,099kWp).
Mae’r rhan fwyaf o’r ynni hwn yn cael ei gynhyrchu drwy baneli solar ffotofoltäig ar y to.
Yn rhan o’r gwaith, ychwanegodd y tîm ynni ragor o insiwleiddio ar doeau ar oleddf ar adeiladau’r safle, inswleiddio rhannau â waliau ceudod, gosod golau rhad ar ynni LED a system solar ffotofoltäig er mwyn helpu i leihau costau a’r defnydd o ynni’r grid trydan.
Mae tîm Cynnal a Chadw Adeiladau’r Cyngor wedi ategu’r gwaith hwn drwy osod unedau cyddwyso modern yn lle hen foeleri, unedau gwydr dwbl effeithlon a modern yn lle ffenestri gwydr sengl, to fflat newydd ar y safle, yn ogystal ag uwchraddio’r insiwleiddio i 160mm o insiwleiddio PIR.
Gyda’i gilydd, bydd y gwaith hwn yn lleihau ôl troed carbon yr ysgol o bron i 8,000kg o garbon y flwyddyn, gan helpu hefyd i leihau costau defnyddio ynni, yn ogystal â darparu amgylchedd dysgu gwell.
Dathlu’r 150
Bydd yr ysgol yn dathlu ei phen-blwydd yn 150 oed ar Fai 11, ac i ddathlu’r garreg filltir mae disgyblion Cyfnod Allweddol 2 wedi bod yn gweithio gyda Menter yr Ifanc a SARN Associates i greu adnodd sy’n canolbwyntio ar lythrennedd ariannol a ffermio, sef Fferm Seren.
Mae’r adnodd hwn yn llyfr gwaith pwrpasol, dwyieithog sy’n cysylltu ffermio â sgiliau ariannol a menter.
“Rydym ni’n dathlu ein pen-blwydd yn 150 oed ym mis Mai ac mae’n wych ein bod yn cyrraedd y garreg filltir hon gydag adeiladau’r ysgol wedi’u hadnewyddu ac yn barod i ddarparu amgylchedd arbed ynni mwy modern, i wella dysgu ar gyfer disgyblion heddiw a’r rhai fydd yn ymuno â ni yn y dyfodol,” meddai’r Pennaeth, Andrew Evans.
“Mae gweithio gyda’r Cyngor wedi ein galluogi ni i leihau ein hôl troed carbon a darparu amgylchedd gwell i’n plant ac aelodau staff, sy’n gyfoeth o hanes traddodiadol mewn ardal o harddwch eithriadol ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am wireddu hyn.”
Blwyddyn bwysig
“Rydym wedi ymrwymo i leihau ein hallyriadau carbon a’n defnydd o ynni ar draws ein holl adeiladau drwy ymgymryd â phrosiectau a fydd yn arwain at leihad mewn costau yn yr hirdymor,” meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant.
“Rwy’n ddiolchgar i’n staff, ynghyd â chymorth gan staff a disgyblion yr ysgol, am ganiatáu i ni wneud y gwaith pwysig hwn yn Ysgol Pentrecelyn, a hithau’n flwyddyn mor bwysig i’r ysgol.”