Ar drothwy’r Gyllideb heddiw (dydd Mercher, Mawrth 6), mae Plaid Cymru’n galw am ddiwygio trethi er mwyn buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus ac isadeiledd, wrth i’r Democratiaid Rhyddfrydol godi eu lleisiau dros gymunedau gwledig.

Yn ôl Ben Lake, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, dylai’r argyfwng yn y gymdeithas sydd ohoni orfodi Llywodraeth y Deyrnas Unedig i “ailfeddwl” ynghylch agweddau tuag at drethi.

Dywed fod llawer o gyfoeth yn y Deyrnas Unedig heb ei drethu o hyd, wrth i bobol elwa ar fuddsoddiadau sy’n cael eu trethu ar raddfa is na’r rheiny sy’n enill trwy eu gwaith.

Yn ôl Plaid Cymru, gallai unioni Treth Enillion Cyfalaf â’r Dreth Incwm gynhyrchu hyd at £15.2bn bob blwyddyn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.

Mae Ben Lake, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Geredigion, yn galw ar y Canghellor Jeremy Hunt i fanteisio ar y cyfle i ganolbwyntio ar “yr angen brys am fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus ac isadeiledd” drwy’r system drethi.

Caiff cyfoeth drwy fuddsoddi ei drethu ar lefel sydd yn is o lawer nag incwm; er enghraifft, cyflog Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yw £140,000 ac mae’r cyflog hwnnw’n destun y dreth incwm.

Derbyniodd e £1.8m o gronfa fuddsoddi, serch hynny, ond fe fu’n rhaid iddo dalu 20% ar enillion cyfalaf yn hytrach na’r 45% y byddai wedi’i dalu drwy’r dreth incwm.

‘Tlodi’

Yn ôl Ben Lake, mae gan Gymru’r lefelau tlodi gwaethaf yn y Deyrnas Unedig, “heb welliant sylweddol yng nghanlyniadau pobol dros y blynyddoedd diwethaf”.

“Mae nifer y bobol sy’n dibynnu ar fanciau bwyd wedi codi, ac mae canran y bobol sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol yn dal yn uchel,” meddai.

“Yn y cyd-destun ofnadwy hwn y bydd y Canghellor yn cyflwyno’i Gyllideb.

“Tra bo’r drafodaeth gyhoeddus wedi canolbwyntio ar dorri trethi, byddai’n gamgymeriad esgeuluso’r angen brys am fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus ac isadeiledd.

“Gallai diwygio trethi’n sylfaenol helpu i ariannu’r fath fuddsoddiad.

“Efallai nad yw’n teimlo felly, ond y Deyrnas Unedig yw’r chweched economi fwyaf yn y byd.

“Ar hyn o bryd, caiff incwm drwy waith ei drethu ar lefel sy’n uwch o lawer nag incwm ddaw o fuddsoddiadau.

“Dylai’r Canghellor ystyried a yw’r anghysondeb hwn yn briodol, o gofio’r straen sylweddol ar wasanaethau cyhoeddus, ac yn wir a allwn ni ei fforddio.

“Dylai’r argyfwng cymdeithasol mae ein cymunedau’n ei wynebu orfodi ailfeddwl sylfaenol ynghylch ein hagwedd tuag at drethu.

“Dylai ein system drethi ganolbwyntio ar gefnogi gweithgarwch economaidd a lleihau anghydraddoldeb, a sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i ateb costau gwasanaethau cyhoeddus.

“Mae’r system drethi bresennol yn ffaeledig ym mhob un o’r tair ffordd.”