Mae un o uwch gynghorwyr Gwent wedi amddiffyn nifer yr awdurdodau lleol sydd yng Nghymru, ac yntau wedi helpu i ddiwygio llywodraeth leol yn y 1990au.

Dywed Paul Griffiths, dirprwy arweinydd Cyngor Sir Fynwy, ei fod e wedi bod yn gwrthwynebu awdurdodau lleol “rhy fawr” ers tro.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig ddwywaith y dylid gostwng nifer yr awdurdodau lleol o 22 i ddeg.

Y tro diwethaf yn 2018, y cynnig oedd cyfuno pedwar cyngor – Blaenau Gwent, Caerffili, Torfaen a Chasnewydd.

Ond wnaeth y cynlluniau hynny ddim gweld golau dydd, ac mae Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ers hynny ar fwy o gydweithio rhwng cynghorau.

Paul Griffiths

Gweithiodd y Cynghorydd Paul Griffiths fel ymgynghorydd arbennig yn rhan amser i Rebecca Evans, y Gweinidog Llywodraeth Leol adeg y pandemig yn 2020 a 2021, a chafodd ei ethol i Gyngor Sir Fynwy am y tro cyntaf yn etholiadau lleol 2022, gan ddod yn ddiprwy arweinydd wrth i Lafur gymryd rheolaeth o’r Cyngor.

Wrth fynd gerbron pwyllgor craffu oedd yn edrych ar ymateb Sir Fynwy i’r pandemig Covid-19, dywedodd y Cynghorydd Paul Griffiths y dylid gwneud gwaith ar lefel ranbarthol ehangach, fel arfer fel Gwent yn Sir Fynwy, pan fo angen.

Roedd Paul Pavia, yr Aelod Ceidwadol dros Gas-gwent Mount Pleasant, wedi cwestiynu’r hollt yn yr ymateb rhwng cynghorau oedd yn gweithredu’n annibynnol ac yn cydweithio ledled Gwent, yn unol â ffiniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Griffiths ei fod yn nodi bod Sir Fynwy a Thorfaen, wrth sefydlu gwasanaeth olrhain ar y cyd i geisio rheoli heintiau Covid, wedi “ail-leoli” y gwasanaeth – gan gymryd cyfrifoldeb drosto – wrth i’r pandemig fynd yn ei flaen.

Yn ogystal â chynghori’r Gweinidog Llywodraeth Leol cyn etholiadau’r Senedd yn 2021, fe fu’r Cynghorydd Paul Griffiths yn cydweithio â Mark Drakeford fel ymgynghorydd arbennig i’r cyn-Brif Weinidog Rhodri Morgan rhwng 2000 a 2007.

Yn ôl ei broffil ar y wefan LinkedIn, fe wnaeth y Cynghorydd Paul Griffiths “chwarae rhan arweiniol wrth ad-drefnu llywodraeth leol Cymru” oedd wedi sefydlu’r 22 awdurdod lleol presennol yn 1996.

“Dw i wedi treulio 30 mlynedd yn gwrthod galwadau am awdurdodau lleol rhy fawr, a byddaf yn parhau i wneud hynny,” meddai wrth y Cynghorydd Paul Pavia.

Gwneud penderfyniadau

Fe wnaeth y pwyllgor ystyried hefyd sut y bu i’r pandemig weld swyddogion yn gwneud penderfyniadau fyddai fel arfer yn cael eu gwneud gan y cabinet gwleidyddol, a’u rheoli gan y Ceidwadwyr.

Dywed David Jones, Pennaeth Gwarchodaeth y Cyhoedd y Cyngor, fod pob penderfyniad sy’n cael ei wneud yn cael ei recordio.

“Rydyn ni’n hyderus iawn, pe bai cais yn dod i ni ddod o hyd iddo, y gallwn ni gael gafael arno,” meddai.

Dywed y Cynghorydd Phil Murphy o Gaerwent, sy’n aelod o’r pwyllgor ac a fu’n Aelod Cabinet dros Gyllid ar y pryd, ei fod e wedi cael cyfarfodydd wythnosol rheolaidd â’r prif swyddog cyllid yn ystod y pandemig, ac “nad oedd diwrnod, gan gynnwys dydd Sadwrn a dydd Sul, heb ryw fath o gyswllt”.

“Oedden ni’n teimlo ein bod ni wedi’n cau allan wrth i’r swyddogion gymryd drosodd? Nac oedden,” meddai.

O’i brofiad yn eistedd mewn cyfarfodydd rhwng Llywodraeth ac arweinwyr y 22 awdurdod lleol, gan gynnwys Peter Fox oedd yn arwain Sir Fynwy ar y pryd, roedd arweinwyr y cynghorau’n gallu “cyfleu amgylchiadau eu hardaloedd lleol” a doedd e ddim yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu gwthio i’r cyrion, meddai’r Cynghorydd Paul Griffiths.