Mae Vaughan Gething wedi’i enwebu’n Brif Weinidog Cymru.

Daw hyn ar ôl “galw’r gofrestr” yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Mawrth 20).

Fel rhan o’r drefn honno, fe wnaeth pob Aelod yn eu tro ddatgan enw’r person roedden nhw am weld yn dod yn Brif Weinidog Cymru.

Derbyniodd Vaughan Gething 27 o bleidleisiau, gyda 13 i Andrew RT Davies ac 11 i Rhun ap Iorwerth.

Pleidleisiodd Aelodau Plaid Cymru dros Rhun ap Iorwerth, y Ceidwadwyr dros Andrew RT Davies, a Llafur dros Vaughan Gething.

Yng ngham nesa’r broses, bydd enw Vaughan Gething yn cael ei gyflwyno i Frenin Lloegr ei gymeradwyo i olynu Mark Drakeford.

Doedd y Llywydd Elin Jones na’r Dirprwy Lywydd David Rees ddim yn cael bwrw pleidlais.

Araith gyntaf yn Brif Weinidog

“Diolch Dirprwy Lywydd, a diolch i’r Aelodau sydd wedi cefnogi fy enwebiad heddiw,” meddai Vaughan Gething wrth ymateb i’r canlyniad yn Gymraeg.

“Dw i’n arbennig o ddiolchgar i’m rhagflaenydd Mark Drakeford am ei enwebiad e, ac am y gefnogaeth mae e wedi’i chynnig i fi, nid yn unig dros y dyddiau diwethaf ond y blynyddoedd lawer rydyn ni wedi cydweithio mor agos.”

Fe gyfeiriodd at “ddyddiau du” y pandemig, gan ddweud ei fod yn “ddiolchgar” mai Mark Drakeford oedd wrth y llyw yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwnnw, gan ganmol ei “foesau” a’i “dosturi”.

Wrth ddiolch i’w ragflaenydd, dywedodd fod cyfnod Mark Drakeford wrth y llyw “wedi’i nodweddu” gan onestrwydd.

Datganoli

Aeth yn ei flaen i drafod datganoli a’r “niferoedd cynyddol o bobol nad ydyn nhw’n cofio amser hebddo”.

Dywedodd iddo ymgyrchu dros ddatganoli, a bod y Senedd bellach yn “gwthio’r ffiniau o ran beth sy’n bosib” o gael pwerau datganoli, gan ychwanegu bod datganoli “wedi cadw pobol yng Nghymru yn ddiogel”.

Ond dywed hefyd fod yna “atgasedd di-gynsail” at ddatganoli yn ystod y cyfnod hwnnw hefyd, “gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n benderfynol o danseilio, rhwystro ac osgoi” Llywodraeth Cymru a’r Senedd.

Dywedodd y byddai’n “sefyll i fyny dros Gymru a datganoli”, gan edrych ymlaen at lywodraeth newydd yn San Steffan.

“Mae Cymru yn haeddu mwy nag ysbeidiau heulog,” meddai wedyn yn Gymraeg.

Dywedodd wedyn ei fod yn awyddus i adeiladu “Cymru decach”, clust i wrando a chyfeillgarwch wrth “rannu uchelgais ar gyfer dyfodol ein gwlad”.

Hil

Ac yntau’n arweinydd Du cyntaf un o wledydd Prydain, cyfeiriodd at ei gefndir ei hun, yn fab i rieni o Gymru a Zambia.

A’i dafod yn ei foch, dywedodd fod yna “arwyddocâd hanesyddol” i’w enwebiad yn Brif Weinidog, fel yr “arweinydd cyntaf ag ‘ap’ yn ei enw!” – ei enw llawn yw Humphrey Vaughan ap David Gething.

Ond fe hefyd yw’r arweinydd Du cyntaf ar un o wledydd Ewrop, a bod hynny’n destun “balchder” i Gymru ond yn “gyfrifoldeb brawychus” iddo fe nad yw’n ei “gymryd yn ysgafn”.

Dywed y bydd rhai yn ei “gwestiynu” gan ddefnyddio “ystrydebau hiliol”, ac yn “cwestiynu neu’n gwadu” ei genedligrwydd.

Bydd eraill yn cwestiynu pam ei fod yn “chwarae’r cerdyn hil”, meddai, gan ddweud ei bod hi’n hawdd i’r rheiny sydd heb wynebu rhagfarn i gwestiynu hunaniaeth.

Ychwanegodd y dylai “ein Senedd edrych fel ein gwlad”, ac y dylai Cymru “ddathlu ein gwahaniaethau a’r hyn sy’n ein clymu”, a bod yn wlad sy’n “llawn gobaith”.