Mae’r “cwestiynau parhaus” am Vaughan Gething yn “gwmwl difrifol dros swydd y Prif Weinidog”, yn ôl Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru.

Daw ei sylwadau yn dilyn ethol Vaughan Gething yn Brif Weinidog Cymru i olynu Mark Drakeford.

Wrth siarad â golwg360 yr wythos hon, dywedodd y sylwebydd yr Athro Richard Wyn Jones fod Vaughan Gething yn dechrau ei gyfnod wrth y llyw “yn glwyfedig iawn”.

Daeth i’r amlwg ychydig wythnosau yn ôl fod ei ymgyrch wedi derbyn £200,000 gan gwmni sy’n cael ei redeg gan ddyn busnes sydd wedi cael ei gyhuddo ddwywaith am droseddau amgylcheddol.

Ac mae’r Prif Weinidog newydd hefyd wedi cael ei feirniadu am ei agwedd at newyddiadurwyr, gyda rhai yn honni ei fod yn ofni craffu.

“Ymgyrch ymrannol” a “phrinder syniadau newydd”

“Mae economi sy’n pallu, rhestrau aros hirfaith yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a safonau addysg sy’n gostwng yn etifeddiaeth o lywodraeth gyfunol y mae’r Prif Weinidog newydd wedi chwarae rhan ganolog ynddi ers dros ddegawd,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Gwyddom y bu ymgyrch arweinyddiaeth Llafur yn ymrannol, ond gwelsom hefyd brinder syniadau newydd.

“Bydd pobol Cymru, yn gwbl briodol, yn meddwl bod yr hyn sydd o’u blaenau yn debygol o fod fwy o’r un fath.

“Mae cwestiynau parhaus ynghylch rhoddion i ymgyrch Vaughan Gething bellach yn gwmwl difrifol dros swydd y Prif Weinidog.

“Rhaid i ddeiliaid swyddi uchel allu sicrhau hyder yr etholwyr ac yn absenoldeb yr arian hwnnw’n cael ei ad-dalu, bydd canfyddiadau’r cyhoedd yn parhau.”

‘Llais cryf Plaid Cymru’

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, “llais cryf” Plaid Cymru sydd ei angen ar Gymru bellach.

“Ar adeg pan fo Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig sydd â’i hamser ar ben, a Llafur yn methu yn ei dyletswydd i frwydro dros Gymru, mae’n bwysicach nag erioed bod llais cryf Plaid Cymru yn rhoi buddiannau Cymru yn gyntaf, ac yn gwneud y mwyaf o’i dylanwad i sicrhau newid cadarnhaol yng Nghymru.

“Byddwn ni bob amser yn cymryd ein rôl fel gwrthblaid o ddifri wrth ddwyn y Prif Weinidog newydd a’i Lywodraeth Lafur Cymru i gyfrif.”