Mae pryderon am “nifer fawr o wallau” yn is-ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru, yn ôl Ymchwil y Senedd.
Mae is-ddeddfwriaethau’n gallu rheoli sawl agwedd ar fywyd bob dydd.
Gall gwallau ynddyn nhw arwain at gyfreithiau sy’n anghyson neu rai nad ydyn nhw’n gweithio’n effeithlon.
Daw’r ymchwil gan y Senedd wedi i Adroddiad Blynyddol 2022/23 y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad godi pryderon am nifer y gwallau yn yr is-ddeddfwriaethau a’r amser roedd yn ei gymryd i wneud cywiriadau.
Roedd y gwallau’n cynnwys anghysondebau o fewn testunau, diffiniadau aneglur a gwallau teipio.
Statws cyfartal i’r Gymraeg
Mae Gorchymyn Cynlluniau Pensiwn a Chynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân 2024 yn un o’r is-ddeddfwriaethau gwallus.
Daeth i’r amlwg fod testunau Cymraeg a Saesneg yn gwrth-ddweud ei gilydd mewn un adran o’r is-ddeddfwriaeth, a hynny oherwydd ystyron croes.
Yng Nghymru, mae’n rhaid bod gan destunau deddfwriaethol Cymraeg a Saesneg statws cyfartal, ond mae’n debyg fod y gwall wedi golygu bod rhai wedi gorfod troi at y testunau Saesneg am eglurhad gwell.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai’r testun Cymraeg yn cael ei ddiwygio “pan fo’r cyfle nesaf yn codi”.
Mewn llythyr fis Chwefror, dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, y byddai’n cymryd wyth i ddeg wythnos i gywiro’r anghysondeb.
Is-ddeddfwriaeth wallus arall oedd y Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) 2023.
Fis Mehefin y llynedd, daeth i’r amlwg fod y gair “data” ar goll o’r cyfieithiad Cymraeg o’r geiriad “cyfnod casglu data” yn yr is-ddeddfwriaeth, gan achosi anghysondebau eto rhwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Fodd bynnag, cafodd y cywiriadau eu gwneud erbyn mis Gorffennaf.
Pwrpas is-deddfwriaethau
Yn gyffredinol, pwrpas is-ddeddfwriaeth yw manylu ar sut mae deddfau’n gweithio.
Mae deddfau’n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaethau fel rheoliadau neu orchmynion mewn rhai amgylchiadau.
Digwyddodd hyn yn ystod y pandemig, er enghraifft, pan oedd gan Weinidogion Cymru’r pwerau i wneud rheoliadau o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1984.
Mae is-ddeddfwriaethau’n aml yn cael effaith amlwg ar fywydau go iawn pobol.
Er enghraifft, yn ystod y pandemig, cafodd y gofynion i hunanynysu ar ôl prawf Covid positif eu cyflwyno.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, mae eu deddfwriaeth yn cael “gwiriadau ansawdd cadarn.”
“Yn anffodus, gall gwallau ddigwydd pan fydd deddfwriaeth eilaidd gymhleth neu arbennig o hir yn cael ei pharatoi, yn enwedig pan gaiff ei chynhyrchu’n gyflym,” meddai.
“Pan nodir gwallau, rydym yn ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael i fynd i’r afael â nhw, gan ganolbwyntio ar gynhyrchu cyfraith sy’n glir ac effeithiol.”