Mae Aelodau’r Senedd ac ymgyrchwyr wedi bod yn galw am ddatganoli Ystad y Goron i Gymru o flaen y Senedd heddiw (dydd Mercher Mawrth 20).
Fe wnaeth unarddeg Aelod Llafur a Phlaid Cymru o’r Senedd ymuno â chydlynydd Siarter Cartrefi i alw am newid.
Yn ôl John Griffiths, yr Aelod Llafur o’r Senedd dros Gasnewydd, gallai’r arian fyddai’n dod i Gymru pe bai ystadau’r goron yn cael eu datganoli “helpu i ddiwallu” anghenion ariannol y wlad.
Mae cynigion Siarter Cartrefi ar gyfer datganoli Ystad y Goron yn cynnwys defnyddio’r elw, all fod yn werth miliynau o bunnoedd bob blwyddyn, i ariannu mentrau ynni adnewyddadwy sy’n eiddo lleol.
‘Ymgyrch flaengar’
Ar ôl cael ei lansio yn gynharach eleni, mae’r grŵp yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o rôl a maint Ystad y Goron yng Nghymru.
“Mae hon yn ymgyrch flaengar, drawsbleidiol a di-blaid sy’n canolbwyntio ar adeiladu gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer dyfodol Cymru,” meddai Dylan Lewis-Rowlands, cydlynydd y Siarter Cartrefi a Chynghorydd Tref Aberystwyth.
“Gall datganoli ystadau’r goron a chynigion ar gyfer ei dyfodol dalu ar ei ganfed i gymunedau ledled Cymru.
“Mae Siarter Cartrefi yn falch o chwarae ei rhan yn yr ymgyrch ac yn diolch i’r holl Aelodau Seneddol, cynghorwyr a gweithredwyr ledled Cymru sy’n cefnogi’r ymgyrch.”
‘Angen sylweddol’
Roedd Vaughan Gething, sydd newydd gael ei enwebu’n ffurfiol yn Brif Weinidog Cymru, wedi cynnwys datganoli Ystad y Goron yn ei faniffesto.
“Gwyddom fod angen sylweddol yng Nghymru, yn gymdeithasol ac yn economaidd, a bod angen adnoddau sylweddol er mwyn mynd i’r afael â’r mater,” meddai John Griffiths.
“Gallai arian o ystadau’r goron ddarparu difidendau sylweddol i helpu i ddiwallu’r anghenion hyn.”