Mae tai yn “angen craidd” ac nid yn “asedau ar gyfer elw”, yn ôl Beth Winter, Aelod Seneddol Llafur dros Gwm Cynon.
Daw ei sylwadau wrth iddi edrych ymlaen at rali Deddf Eiddo – Dim Llai ym Mlaenau Ffestiniog ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr.
Bydd hi’n un o’r siaradwyr yn ystod y rali ddydd Sadwrn, Mai 4.
Nod y rali yw galw am ddeddf fyddai’n sicrhau bod tai yn cael eu trin yn bennaf oll fel anghenion cymunedol, ac nid asedau ariannol er mwyn gwneud elw.
“Dylai bod gan bawb yr hawl i fyw yn eu cymuned eu hunain,” meddai Beth Winter.
“Dydy’r argyfwng tai ddim yn ryw argyfwng naturiol anochel, mae’n ganlyniad degawdau o benderfyniadau gwleidyddol bwriadol – penderfyniadau sydd yn gyrru pobol o’r cymunedau maen nhw’n eu caru.”
Ychwanega fod tai yn “angen craidd” ac nid yn “asedau ar gyfer elw”, a bod angen sicrhau bod pobol yn gallu byw a gweithio yn y cymunedau lle cawson nhw eu magu.
“Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr, byddaf yn ymuno â fy nghymrodyr ym Mlaenau Ffestiniog i ymladd am Gymru sy’n rhoi anghenion pobl yn gyntaf,” meddai.
‘Angen mwy o frys’
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyflwyno rhai mesurau i fynd i’r afael â rhai agweddau ar yr argyfwng tai, er enghraifft galluogi awdurdodau lleol i gyflwyno premiymau treth gyngor ar ail dai.
Fodd bynnag, dydy’r rhain ddim yn mynd yn ddigon pell, yn ôl Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd.
“Mae ein cymunedau wedi dioddef degawdau o ddiboblogi a diffyg buddsoddiad oherwydd methiant y farchnad agored i sicrhau fod yna dai – cartrefi – ar gael i bobol a theuluoedd gael byw yn eu cymunedau,” meddai.
“Mae gan Lywodraeth Cymru’r gallu i ymyrryd yn y farchnad rydd, sydd wedi profi i fod mor niweidiol i Gymru, a sicrhau bod yna nifer digonol o dai ar gyfer anghenion ein cymunedau.
“Yn anffodus, tan yn eithaf diweddar, mae’r Llywodraeth wedi bod yn euog o eistedd yn ôl a gadael i’r farchnad reoli ffawd Cymru.”
Ychwanega ei fod yn “falch” fod y Llywodraeth wedi cychwyn cymryd camau i ganfod datrysiadau trwy eu Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru, ond fod angen mwy o frys.
‘Hawl sylfaenol a hawl dynol’
Mae Mabon ap Gwynfor yn credu mai’r ffordd orau a mwyaf effeithiol o ddatrys yr argyfwng tai ydy trwy sicrhau bod yna fwy o dai o dan berchnogaeth gyhoeddus a chymunedol yn cael eu hadeiladu.
Ychwanega fod angen i’r rhain fod o’r safon uchaf, fel eu bod nhw’n diwallu anghenion cymunedol.
“Yn y cyfamser, rhaid cael ymyrraeth er mwyn rheoli’r farchnad a gwneud yn siŵr ei fod yn gweithio o blaid ein cymunedau,” meddai.
Dywed fod yr hawl i gartref “yn hawl sylfaenol” ac yn “hawl ddynol”.
“Felly, y cam cyntaf ydy cyflwyno Deddf i sicrhau fod gan bobl Cymru’r hawl i dŷ addas i bwrpas,” meddai.
“Byddai Deddf o’r fath yn gorfodi’r Llywodraeth i weithredu.”
Bydd rali fawr a gorymdaith Nid yw Cymru ar Werth yn cychwyn am 2 o’r gloch ym Maes Parcio Diffwys ym Mlaenau Ffestiniog.