Mae Cymru yng nghanol “argyfwng” deintyddiaeth, yn ôl arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Mae Jane Dodds wedi tynnu sylw at y sefyllfa sy’n wynebu’r rhai sy’n ceisio cael mynediad at wasanaethau deintyddiaeth yng Nghymru ar hyn o bryd.

Daw hyn wedi i Lywodraeth Cymru baratoi i gynyddu’r costau ar gyfer cleifion deintyddol.

Dyma fydd y cynnydd unigol mwyaf mewn taliadau cleifion deintyddol yn y Deyrnas Unedig, yn ôl Cymdeithas Ddeintyddol Prydain.

Bydd y cynnydd mewn costau ar gyfer gofal deintyddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gweld cost gyffredinol triniaeth frys yn codi gan 104% yng Nghymru – o £14.70 i £30.

Bydd triniaethau band 1 – sef arolwg dannedd, pelydr-x a sgleinio – yn cynyddu o £14.70 i £20.

Bydd costau triniaethau band 2 – llenwi ac echdynnu dannedd – yn codi o £47.00 i £60.00.

Yn yr un modd, bydd cynnydd o £203 i £260 ar gyfer band 3, sy’n cynnwys dannedd gosod.

“Anialwch deintyddol” yng nghefn gwlad

A hithau’n Aelod o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, mae Jane Dodds hefyd yn bryderus ynghylch rhestrau aros hir mewn ardaloedd gwledig.

Mae hi’n disgrifio’r ardaloedd hyn fel “anialwch deintyddol”.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Powys, roedd 4,818 o oedolion a 314 o blant yn aros am ofal deintyddol fis Medi diwethaf.

Erbyn mis Chwefror eleni, roedd 4,361 o oedolion a 274 o blant yn dal i aros.

“Rydym ni yma yng Nghymru yng nghanol argyfwng o ran hygyrchedd gofal deintyddol,” meddai Jane Dodds.

“Mae amseroedd aros andros o hir ar draws y wlad wedi arwain at wrthod mynediad i ofal deintyddol hanfodol i filoedd o bobol.

“Mae hyn yn enwedig mewn cymunedau gwledig, lle mae prinder o wasanaethau hygyrch wedi creu anialwch deintyddol.”

Dywed Jane Dodds na fydd y cynnydd mewn costau ond yn gwaethygu’r argyfwng, gan arwain at fwy a mwy o bobol yn ceisio trin eu problemau dannedd eu hunain.

Ychwanega y gall hyn fod yn beryglus iawn.

Dywed fod y newidiadau sydd i ddod i Gabinet Llywodraeth Cymru yn dilyn ethol Vaughan Gething yn Brif Weinidog yn “eiliad hollbwysig” er mwyn datrys yr argyfwng.

“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd agwedd gydweithredol, i weithio’n uniongyrchol gyda gweithwyr deintyddol proffesiynol fel y gallwn greu model gofal deintyddol teg a hygyrch i Gymru gyfan,” meddai.

‘Pwysau eithafol ar ein cyllideb’

Fodd bynnag, dywed Llywodraeth Cymru fod y taliadau cyffredinol ar gyfer gofal deintyddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn dal yn is nag yn Lloegr.

“Oherwydd y pwysau eithafol ar ein cyllideb mae’n iawn ein bod yn ystyried codi arian ychwanegol drwy gynyddu taliadau, wrth barhau i amddiffyn y rhai sydd leiaf abl i fforddio taliadau uwch,” meddai llefarydd.

“Er gwaethaf pwysau ar ein cyllidebau, rydym yn parhau i gynyddu cyllid ar gyfer deintyddiaeth – mae cyllid heddiw £27m yn uwch nag yr oedd yn 2018-19, gan gynnwys £2m y flwyddyn yn ychwanegol ers y llynedd i fyrddau iechyd fynd i’r afael â materion mynediad lleol.

“Bydd unrhyw refeniw ychwanegol o’r cynnydd mewn ffioedd deintyddiaeth yn cael ei ail-fuddsoddi yng ngwasanaethau deintyddol y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol.”

Ychwanega fod eithriadau ar waith i bobol sy’n derbyn budd-daliadau penodol, tra bod y cynllun incwm isel hefyd yn darparu cymorth llawn, neu rannol yn dibynnu ar amgylchiadau.