Mae ymchwil ar ran Trafnidiaeth Cymru’n dangos gostyngiad sylweddol yn nifer y rhai sy’n chwilota am y Gymraeg ar-lein.

Mae’r ystadegau’n dangos cwymp o 14% dros y tri mis diwethaf, a 52% dros y mis diwethaf.

Yn ystod y mis yma, fe wnaeth Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, lansio cynllun Llysgenhadon Diwylliannol er mwyn hybu’r iaith Gymraeg, ei threftadaeth a’i diwylliant.

Yn ôl y cynllun, mae gofyn bod unigolion a busnesau’n gwirfoddoli i gymryd rhan drwy gwblhau modiwlau rhyngweithiol ar hanes y Gymraeg a’i sefyllfa heddiw.

Yn ôl Trafnidiaeth Cymru, mae’r ymchwil yn awgrymu bod llai o bobol yn dangos diddordeb yn yr iaith bellach, sy’n awgrymu bod angen gwneud mwy i’w hyrwyddo a’i dathlu.

‘Mwy na dim ond slogan’

“Yn Trafnidiaeth Cymru, mae ein hymrwymiad i roi’r Gymraeg yn gyntaf yn fwy na dim ond slogan; mae’n agwedd sylfaenol ar ein hunaniaeth a’n gwerthoedd,” meddai Lowri Joyce, arweinydd Strategaeth y Gymraeg Trafnidiaeth Cymru.

“Rydyn ni’n cydnabod arwyddocâd pwysig y Gymraeg fel conglfaen ein treftadaeth ddiwylliannol a’n hunaniaeth genedlaethol.

“Felly, rydyn ni wedi ymrwymo i anrhydeddu a hyrwyddo’r Gymraeg ym mhob agwedd ar ein gweithrediadau.

“Nid mater o falchder diwylliannol yn unig yw cofleidio’r iaith Gymraeg; mae hefyd yn rheidrwydd ymarferol mewn gwlad lle mae cyfran sylweddol o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg.

“Drwy flaenoriaethu’r Gymraeg, rydyn ni’n gwella hygyrchedd ac yn sicrhau bod pob unigolyn, ni waeth beth yw ei ddewis iaith, yn gallu ymgysylltu’n llawn â’n gwasanaethau ac elwa arnyn nhw.

“Yn ei hanfod, mae ein hymrwymiad i anrhydeddu’r Gymraeg a phob iaith arall yn golygu mwy na bodloni gofynion rheoleiddio neu roi tic yn y blwch; mae’n ymwneud â meithrin ymdeimlad o berthyn, hyrwyddo amrywiaeth ieithyddol, a chryfhau gwead cymdeithas Cymru.

“Yn Trafnidiaeth Cymru, rydyn ni’n falch o arwain drwy esiampl wrth hyrwyddo’r iaith Gymraeg, a dathlu tapestri cyfoethog treftadaeth ieithyddol ein cenedl.”