Bydd Carmen Smith o Blaid Cymru yn cael ei chyflwyno i Dŷ’r Arglwyddi fel y Farwnes Smith o Lanfaes heddiw (dydd Iau, Mawrth 21).

Yn 28 oed, hi fydd yr Arglwyddes am Oes ieuengaf erioed.

Cafodd Carmen Smith ei magu yn Llanfaes ar Ynys Môn.

Dywed ei bod wedi dewis ei theitl er mwyn “taflu goleuni ar brofiadau pobol mewn ardaloedd fel fy rhai i”.

Gofalwr

Yn ôl Carmen Smith, doedd ei phrofiadau fel gofalwr ifanc mewn ardal ddifreintiedig wrth edrych ar ôl ei thad oedd yn dioddef o ddementia ddim yn unigryw.

Ond ychwanega fod ganddi brofiadau gwahanol iawn i’r rhan fwyaf o aelodau’r ail siambr yn San Steffan.

Daw ei chyflwyniad wrth i’r Arglwydd Dafydd Wigley, cyn-arweinydd Plaid Cymru, gadarnhau y bydd yn ymddeol o’r Arglwyddi pan ddaw’r Etholiad Cyffredinol nesaf.

Bu’n aelod o’r Tŷ ers 2011, ac mae wedi llongyfarch Carmen Smith yn wresog.

Bydd Dafydd Wigley a Natalie Bennett, cyn-arweinydd y Blaid Werdd, yn cyflwyno Carmen Smith i’r Tŷ, a bydd hi’n tyngu llw yn Gymraeg.

‘Llais i fy nghenedlaeth’

Yn ôl Carmen Smith, mae hi wedi “gwylltio gan yr anghyfiawnderau a ddioddefir gan gymaint yn ein cymdeithas”.

Ychwanega ei bod hi’n teimlo bod llais ei chenhedlaeth hi’n cael ei “foddi gan fethiannau strwythurau gwleidyddol ac economaidd y Deyrnas Gyfunol”.

“Wrth i mi gael fy nghyflwyno i Dŷ’r Arglwyddi fel ei aelod ieuengaf heddiw, byddaf yn hynod ymwybodol o’r cyfrifoldeb unigryw sydd gennyf i fod yn llais i fy nghenhedlaeth,” meddai.

“Fel gofalwraig ifanc i fy niweddar dad, fe brofais y math o drafferthion y mae cymaint o bobol yn eu hwynebu bob dydd – yr un rhwystrau, yr un rhagfarnau.

“Fel rhywun a fagwyd mewn ardal wledig, ddifreintiedig, cefais brofiad o’r diffyg cysylltedd a’r diffyg seilwaith sy’n wynebu cymaint o’n cymunedau o hyd.

“Mewn Tŷ’r Arglwyddi lle na fydd llawer o aelodau yn edrych yn debyg i mi, rwy’n gwybod y bydd yn rhaid i mi weiddi’n uchel. Rydw i’n barod i wneud hynny.”

‘Rhoi sgytwad i’r lle’

Dywed Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, ei bod hi wrth ei bodd fod Carmen Smith yn ymuno â’r tîm.

“Gwn y bydd yn sefyll yn ddygn dros Gymru, dros bobl ifanc, a thros fenywod,” meddai.

“Mae arnom angen pobl gydag amrywiaeth eang o brofiadau fel bod ein gwleidyddiaeth yn cynrychioli cymdeithas yn well.

“Alla’i ddim aros i weld Carmen yn rhoi sgytwad i’r lle ac yn dod â chwa o awyr iach i ail siambr San Steffan.”